Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio Colin Richards, yn Nhrelái, Caerdydd.
Cafodd y dynion, 26 a 18 oed o Gaerdydd, eu harestio yn ardal Stoke ac maent yn y ddalfa.
Mae swyddogion cyswllt â theuluoedd arbenigol wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i deulu Colin Richards ac yn parhau i'w cefnogi.
Cafodd Mr Richards, 48 oed, ei ganfod yn anymwybodol yn Snowden Road, yn Nhrelái, yn dilyn adroddiad am aflonyddwch yn ardal Heol-y-Berllan a Heol Trelái yng Nghaerau ychydig cyn 11.30pm nos Sul, 7 Ebrill.
Er gwaethaf ymdrechion gorau'r gwasanaethau brys, bu farw'r tad i saith o ganlyniad i glwyf trywanu angheuol.
Gellir rhoi gwybodaeth a deunydd fideo i Heddlu De Cymru ar-lein yma: https://mipp.police.uk/operation/62SWP24B87-PO1
Fel arall, gallwch gysylltu â ni drwy un o'r ffyrdd canlynol, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod: 2400112146.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.