Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Fel rhan o ymgyrch ar y cyd rhwng yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru, cafodd hyb cymorth llesiant ei gyflwyno i weithio gyda phartneriaid lleol i ddiogelu'r rhai y gwelwyd eu bod yn rhan o Linellau Cyffuriau ar y rhwydwaith rheilffyrdd.
Fel rhan o'r ymgyrch deuddydd (24-25 Ebrill), aeth swyddogion i orsafoedd gan gynnwys Caerdydd Canolog, Casnewydd, Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr ac ar wasanaethau ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd.
Gan dargedu'r rheilffyrdd ledled De Cymru, cydweithiodd yr heddluoedd gyda'r nod o adnabod, dal ac amddiffyn y rhai sy'n rhan o achosion o gamfanteisio drwy linellau cyffuriau, neu sy'n wynebu'r risg fwyaf o hynny.
Mae gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr ieuenctid o Gyngor Dinas Caerdydd, Cyngor Dinas Casnewydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a gwasanaeth Iechyd Meddwl Cyngor Abertawe, ynghyd â GIG Cymru, gwasanaeth cymorth cyffuriau ac alcohol cymunedol BAROD gan CAVDAS ar y safle er mwyn rhoi help, diogelwch a thriniaeth i'r rhai sy'n cael eu nodi, gan droi'r ‘eiliad o fewn cyrraedd’ yn realiti. Roedd y rhwydwaith cymorth hwn yn allweddol ar gyfer y 15 o atgyfeiriadau alcohol a chyffuriau a wnaed ac a gafodd eu trin ar yr un diwrnod.
Yn ystod yr ymgyrch, gwnaeth swyddogion stopio a chwilio 90 o unigolion ac arestio chwech, gan gynnwys dyn 22 oed o Lundain y canfuwyd bod ganddo werth 1.5k o ganabis yn ei feddiant a bachgen 17 oed o Gaerdydd y canfuwyd bod ganddo gyllell yn ei feddiant.
Yn ogystal â'r arestiadau cadarnhaol, daethpwyd o hyd i dri arf, tri chilogram o dabledi a bron £10,000 mewn arian parod.
Gweithiodd yr heddluoedd gyda'i gilydd a defnyddio adnoddau arbenigol, fel cŵn cyffuriau, bwâu metel a thactegau agored a chudd i ddal arfau, cyffuriau ac arian parod anghyfreithlon, ac adnabod unigolion agored i niwed y mae gangiau llinellau cyffuriau yn camfanteisio arnynt.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Gareth Williams, arweinydd y Tasglu Llinellau Cyffuriau: “Mae canlyniadau'r ymgyrch hwn yn dystiolaeth o'r cydweithio effeithiol rhyngom ni, ein cydweithwyr plismona a'n partneriaid. Dylai'r arestiadau a'r atafaeliadau a wnaed fod yn rhybudd difrifol i droseddwyr llinellau cyffuriau – byddwch yn cael eich dal a'ch rhoi gerbron y llysoedd.
“Un o'n blaenoriaethau allweddol yw adnabod a diogelu'r rhai sy'n cael eu targedu yn y math hwn o drosedd i gludo cyffuriau ar y rheilffyrdd, ochr yn ochr â stopio'r cyffuriau niweidiol rhag cyrraedd ein cymunedau.
“Rydym yn gwbl ymrwymedig i sicrhau bod y rhwydwaith rheilffyrdd yn amgylchedd gelyniaethus i gyflenwyr cyffuriau gludo eu nwyddau.”
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mike Preston o Heddlu Gwent: "Mae ein gwaith yr wythnos hon, ochr yn ochr â'n partneriaid, yn dangos rhai o'r ffyrdd rydym yn mynd i'r afael â llinellau cyffuriau a'r mathau eraill o weithgarwch troseddol sy'n gysylltiedig â hynny.
"Rydym yn ymrwymedig i amddiffyn y rhai sy'n wynebu risg o gamfanteisio a dod â'r rhai sy'n gyfrifol o flaen eu gwell.
"Os oes gennych unrhyw wybodaeth am ddelio cyffuriau yn eich cymuned, cofiwch roi gwybod i ni fel y gallwn weithredu."
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Mark Lewis o Heddlu De Cymru: “Mae'n hanfodol ein bod yn gweithio gyda'n partneriaid i fynd i'r afael â phroblem Llinellau Cyffuriau gan fod y rhai sy'n gwneud hyn yn camfanteisio ar bobl sy'n agored i niwed, gan gynnwys plant a'r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl neu broblemau dibyniaeth, drwy eu recriwtio i ddosbarthu cyffuriau.
“Rydym yn ymrwymedig i fynd i'r afael â throseddau delio cyffuriau a Llinellau Cyffuriau ac fel bob amser, rydym yn annog preswylwyr mewn cymunedau sydd wedi'u difetha gan weithgareddau cyffuriau anghyfreithlon i barhau i roi gwybod inni am eu pryderon a'u hamheuon, a byddwn yn mynd ati'n ddiflino i dargedu'r rhai sy'n ymwneud â chyflenwi cyffuriau.”
Gallwch roi gwybod am unrhyw bryderon i'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig drwy anfon neges destun i 61016, ffonio 0800 40 50 40 neu lawrlwytho ap Railway Guardian.
Gallwch hefyd gyflwyno gwybodaeth yn ddienw drwy Crimestoppers, ar 0800 555 111 neu drwy eu ffurflen ar-lein.