Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r feicwraig fodur a fu farw mewn gwrthdrawiad traffig ffyrdd a ddigwyddodd ddydd Llun 1 Ebrill ar Ffordd Mynydd Newydd, Abertawe wedi cael ei henwi. Roedd Stephanie Morris, 46 oed, yn dod o ardal Blaen-y-maes, Abertawe.
Wrth dalu teyrnged i Steph, fel roedd pawb yn ei hadnabod, dywedodd ei merch Chelsea:
“Roedd yn fam, mam-gu, chwaer, modryb a ffrind a oedd yn cael ei charu'n fawr.
“Hi oedd y person caredicaf y gallech ei gyfarfod, bob amser yn llawn cariad gydag amser i bawb a byddai bod yn ei chwmni yn gwella'ch diwrnod, ni waeth sut roedd pethau arnoch.
“Roedd yn gymeriad unigryw ac uchel iawn ei pharch yn y gymuned, fel y mae'r negeseuon caredig tu hwnt ar Facebook yn ei ddangos.
“Mae'n amlwg y bydd llawer iawn o bobl yn teimlo colled ar ei hôl hi ac mae wedi gadael gwacter yn ein calonnau na ellir byth ei lenwi.
“Rydyn ni fel teulu wedi cael sioc ac yn ei chael hi'n anodd delio gyda'n teimladau.
“Ond fe hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r holl wasanaethau brys ac aelodau o'r cyhoedd a wnaeth geisio helpu Mam.
“Gofynnwn yn awr am breifatrwydd fel y gallwn ddechrau galaru amdani'n breifat.
“Gorffwys mewn hedd Mam.”
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad a ddigwyddodd tua 8:45pm nos Lun 1 Ebrill 2024 ar Ffordd Mynydd Newydd, Pen-lan, Abertawe ger y gyffordd â Roger Street.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng beic modur Yamaha du a Ford Fiesta.
Mae swyddogion yn gofyn i unrhyw un a all fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu sydd â fideo o gamera dashfwrdd gysylltu â ni drwy un o'r dulliau canlynol, gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2400105620.