Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r beiciwr modur a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffyrdd ar 30 Mawrth, ar y B4265 rhwng Maes Awyr Caerdydd a Llanilltud Fawr, wedi cael ei enwi fel Barrie Taylor, 51 oed, o Ben-y-bont ar Ogwr.
Bu farw Mr Taylor ar safle'r gwrthdrawiad er gwaethaf ymdrechion gorau aelodau o'r cyhoedd a'r parafeddygon a oedd yn bresennol.
Dymuna teulu Mr Taylor ddiolch iddynt am eu hymdrechion ar safle'r gwrthdrawiad.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad a ddigwyddodd ychydig cyn 1.10pm ddydd Sadwrn, 30 Mawrth, ar y B4265 rhwng Maes Awyr Caerdydd a Llanilltud Fawr, tua milltir o Gastell Ffwl-y-mwn.
Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys beiciwr modur a oedd yn gyrru beic modur Yamaha a gyrrwr Skoda.
Mae swyddogion yn apelio ar unrhyw un a all fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu a all fod â deunydd fideo camera dashfwrdd, i gysylltu â ni drwy un o'r ffyrdd canlynol, gan ddyfynnu'r rhif digwyddiad 2400103405.
Ewch i:
I roi gwybodaeth yn ddienw, cysylltwch â Crimestoppers ar 0800 555 111 neu drwy'r ddolen hon https://crimestoppers-uk.org/give-information/forms/pre-form