Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â gwrthdrawiad traffig ffordd a ddigwyddodd ar Heol Sloper, Caerdydd.
Mae teledu cylch cyfyng yn dangos car yn cael ei oryrru yn mynd ar balmant, yn taro merch fach ac yn ffoi.
Mae dyn 34 oed o Grangetown wedi cael ei arestio dan amheuaeth o yrru'n beryglus, peidio â stopio cerbyd, a pheidio â rhoi gwybod am ddamwain a oedd yn cynnwys cerbyd roedd yn ei yrru.
Mae'r car yr amheuir ei fod yn rhan o'r digwyddiad wedi cael ei atafaelu ac mae archwiliad fforensig yn mynd rhagddo.
Mae teulu'r ferch wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf.
Yn rhyfeddol, dim ond mân anafiadau a gafodd y ferch fach, ond yn ddealladwy roedd y digwyddiad, a ddigwyddodd tua 5.50pm ddydd Sul, 24 Mawrth, yn un dychrynllyd iawn iddi hi a'i theulu.
Mae'r mater yn cael ei gymryd o ddifrif ac mae'r ymchwiliad yn mynd rhagddo'n effeithiol.
Mae'r dyn a arestiwyd ar fechnïaeth amodol tra bod rhagor o ymholiadau'n cael eu cynnal.
Os gwelsoch chi'r gwrthdrawiad neu'r cerbyd dan sylw, cysylltwch â ni drwy un o'r ffyrdd canlynol gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2400097157.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.