Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r fenyw 25 oed a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffordd ar Heol Abertawe, Merthyr Tudful, a ddigwyddodd am tua 11.45pm ddydd Gwener 5 Ebrill wedi cael ei henwi fel Demi Mabbitt o Aberfan.
Mae teulu Dami wedi talu teyrnged iddi, gan ddweud: “Roedd Demi yn ferch, wyres, chwaer, modryb a chyfnither hyfryd.
“Roedd yn garedig ac yn addfwyn a byddai'n gwneud unrhyw beth i helpu unrhyw un. Roedd yn rhan annatod o'n teulu a brwydrodd tan y diwedd. Gwnaethom ei cholli yn rhy gynnar o lawer. Mae ein teulu wedi eu llorio, a does dim geiriau i ddisgrifio'r golled a'r boen rydym yn eu teimlo.”
Mae swyddogion uned gwrthdrawiadau difrifol Heddlu De Cymru yn parhau i apelio i unrhyw un a all fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu a all fod â deunydd fideo camera cylch cyfyng o'r digwyddiad – neu a oedd yn gyrru cyn y digwyddiad – i gysylltu â nhw.
Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys un car, Audi S3 gwyn a oedd yn teithio ar hyd Heol Abertawe o Trago Mills tuag at yr A465.
Cysylltwch â ni gan ddyfynnu cyfeirnod 1420-050424, yn defnyddio un o'r dulliau canlynol:
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.
Er mwyn rhoi gwybodaeth yn ddienw, cysylltwch â Crimestoppers ar 0800 555 111 neu drwy: https://crimestoppers-uk.org/give-information/forms/pre-form