Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyn Diwrnod Stephen Lawrence2024, gwnaethom ymweld â'n carfan SPARK yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd er mwyn iddynt rannu ein #YmrwymiadauDiwrnodStephenLawrence.
Nod prosiect SPARK yw helpu i feithrin cydberthnasau gwell rhwng y bobl ifanc yn ein cymunedau a'r heddlu.
Mae prosiect SPARK, a gaiff ei redeg gan Gymdeithas Heddlu Du Heddlu De Cymru, wedi rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr siarad ag aelodau gwahanol o'r heddlu, yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithdy arwain ac ymweld â'n pencadlys. Mae'r Gymdeithas Heddlu Du hefyd wedi bod yn gweithio'n agos gyda sefydliadau eraill, fel Undeb Rygbi Cymru, i roi cyfleoedd i'r plant.
Nod y prosiect hwn eleni yw ysbrydoli newid cymdeithasol drwy rymuso'r genhedlaeth nesaf, felly roedd ein digwyddiad i nodi Diwrnod blynyddol Stephen Lawrence yn addas iawn gan fod Sefydliad Stephen Lawrence yn canolbwyntio ar y pŵer o ddysgu, gan weithio i rymuso meddyliau a llywio'r dyfodol.
Wrth weithio gyda'r myfyrwyr, gwnaethom eu hannog i fod yn greadigol er mwyn creu fideo ar gyfer Diwrnod Stephen Lawrence, gan eu galluogi i fynegi'r hyn y mae cydraddoldeb yn ei olygu iddynt a'r hyn y byddent yn ymrwymo iddo eleni.
Dywedodd Sunita Sood, Cadeirydd BPA Heddlu De Cymru:
“Menter i ymgysylltu â phobl ifanc a gaiff ei harwain gan Gymdeithas Heddlu Du Heddlu De Cymru, yw rhaglen SPARK, ar y cyd ag elusennau fel The Gloves Are On a Race Council Cymru. Mae'n cynnig mewnbwn i'r adrannau amrywiol yn Heddlu De Cymru, ac rydym yn rhoi cyngor ar faterion fel ymlid traffig, y defnydd gorau o alwadau 999 / 101, cyngor ac arweiniad ar droseddau cyllyll a digwyddiadau sy'n gysylltiedig ag arfau tanio.
“Rydym yn gweithio gyda myfyrwyr yn ein cymunedau i ddatblygu sgiliau arwain, gan feithrin cydberthnasau cadarnhaol rhwng ein pobl ifanc a'r heddlu. Rydym yn cynnig cyfleoedd i arweinwyr ifanc y dyfodol ddatblygu drwy eu cyflwyno i sefydliadau amrywiol. Mae'r rhaglen yn sicrhau bod cyfranogwyr yn cael eu grymuso i edrych y tu hwnt i sefyllfaoedd, i anelu'n uchel, i ddyheu ac i lwyddo mewn bywyd.
“Mae grymuso ein pobl ifanc heddiw yn creu arweinwyr y dyfodol, ac ar y cyd â rhaglenni fel SPARK, rydym yn tanio potensial, yn adeiladu pontydd ac yn llywio dyfodol sy'n llawn cyfleoedd a dealltwriaeth.”
“Diolch i Soraya ac Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd am roi'r cyfle i ni roi prosiect SPARK ar waith.”
Sefydlodd Soraya Kelly The Gloves Are On, elusen sydd â'r nod o godi ymwybyddiaeth o'r materion sy'n effeithio ar blant, pobl ifanc ac oedolion ac mae hefyd yn gweithio yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd.
Dywedodd:
“O ganlyniad uniongyrchol i brosiect SPARK gyda Heddlu De Cymru, mae'r myfyrwyr wedi cael budd o ymgysylltu ymhellach â'r heddlu, ac mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu wedi dechrau sgyrsiau er mwyn trafod eu hawliau ac wedi eu gwahodd i ymuno â'r rhaglen i bobl ifanc.
“Mae Undeb Rygbi Cymru wedi bod yn yr ysgol yn siarad â'r plant yn ogystal â mynd â nhw ar ymweliadau a darparu cit chwaraeon, nwyddau a thocynnau i fynd i wylio gemau.
“Mae sefydliadau eraill hefyd wedi ymweld â'r ysgol, fel Caerdav, a drefnodd i'r myfyrwyr ymweld â'i gyfleusterau a thrafod cyfleoedd lleoliad gwaith.
“Diolch i bob un o'r myfyrwyr am gymryd rhan ac i'r Prif Gwnstabl Cynorthwyol Danny Richards a'r Uwch-arolygydd Marc Attwell am eu cymorth parhaus ac am drefnu i swyddogion fynychu'r ysgol yn rheolaidd er mwyn dechrau meithrin cydberthnasau cadarnhaol â phobl ifanc yr ardal.
“Ni fyddai'r cyfleoedd hyn wedi bod yn bosibl heb gymorth gan brosiect SPARK a Heddlu De Cymru.”