Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae pedwar dyn wedi cael eu hanfon i'r carchar am gyfanswm o 45 mlynedd ar ôl eu cael yn euog o ladrata o dŷ yn ardal Llaneirwg yng Nghaerdydd ym mis Mehefin 2023.
Ar 14 Mehefin y llynedd, teithiodd y pedwar dyn a bachgen 17 oed i Gaerdydd mewn dau gerbyd hurio gyda rhifau cofrestru a oedd wedi cael eu newid.
Torrodd Charlie Seeney a Thomas Hagans i mewn i'r cyfeiriad, a gwnaethant ddwyn coffor a oedd wedi'i guddio y tu mewn.
Roedd Simon Seeney – tad Charlie – a Ras Thomas hefyd yn bresennol gyda'r ddau gerbyd.
Llwyddodd ditectifs a oedd yn ymchwilio i'r fwrgleriaeth i adnabod y cerbydau hurio, a'u tracio wrth iddynt deithio o Taunton ar yr un diwrnod.
Nid oedd y swyddogion yn gwybod ar y pryd, ond roedd y gang newydd gyflawni bwrgleriaeth waethygedig yn Taunton lle gwnaethant dorri i mewn i gyfeiriad gyda throsolion a thwceiod, a gorfodi'r deiliaid i orwedd â'u hwynebau i lawr. Ymosodwyd ar y deliaid hefyd. Gwnaethant ffoi â gwerth tua £50,000 o emwaith o'r cyfeiriad hwn.
Drwy ddefnyddio deunydd Teledu Cylch Cyfyng, roedd modd i'r swyddogion data ffôn symudol a thechnoleg tracio cerbydau adnabod y rhai dan amheuaeth yn gynnar, gan eu holrhain i gyfeiriadau yn Birmingham, Bryste a Chaerdydd.
Plediodd Charlie Seeney (18 oed) a Simon Seeney (42 oed), y ddau o Birmingham, yn euog i fwrgleriaeth, bwrgleriaeth waethygedig ac ymosodiad cyn i'r treial ddechrau.
Ddydd Mercher 21 Chwefror, ar ôl treial, cafwyd Thomas Hagans (41 oed) o Birmingham, Ras Thomas (41 oed) o Gaerdydd a Craig Shaw (34 oed) o Birmingham yn euog gan y rheithgor.
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
Mae Charlie Seeney bellach yn 18 oed ond roedd yn 17 ar adeg ei ddedfryd. Ymdriniwyd ag ef yn Llys Ieuenctid Birmingham a chafodd atgyfeiriad ieuenctid o 12 mis.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Rhys Perrett:
"Hoffwn dalu teyrnged i ddioddefwyr y ddwy drosedd am eu dewrder drwy gydol yr ymchwiliad.
"Roedd hwn yn ymchwiliad cymhleth lle bu Heddlu De Cymru, Cwnstabliaeth Avon a Gwlad yr Haf a Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cydweithio i sicrhau'r pledion euog a'r euogfarnau a welsom yn y Llys.
"Mae'r dedfrydau a roddwyd yn Llys y Goron Casnewydd yn adlewyrchu difrifoldeb y troseddau a gyflawnwyd gan y dynion hyn. Bydd yr unigolion peryglus hyn nawr yn y carchar am amser hir."
"Mae ymdrechion Heddlu De Cymru ar y cyd â'n cydweithwyr yn Avon a Gwlad yr Haf yn dangos ein hymrwymiad at gadw ein cymunedau yn ddiogel drwy dynnu troseddwyr peryglus fel y rhain oddi ar ein strydoedd am amser hir."