Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Gaerdydd wedi cael ei ddedfrydu i 40 mis yn y carchar am fod â chyffuriau Dosbarth A yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi, ymosod, a bod ag eitem lafnog yn ei feddiant mewn man cyhoeddus.
Cafodd David McCauley, 19 oed o Hiles Road, Trelái, ei ganfod â chyllell sombi fawr (yn y llun) yn ei feddiant, sydd wedi cael ei hatafaelu. Plediodd yn euog ym mis Mawrth eleni.
Dywedodd Cwnstabl yr Heddlu Jon Grenville-Roberts:
"Mae'r euogfarn hon yn deillio o waith da gan Gwnstabl yr Heddlu Clarke o dîm ymateb Trelái.
"Mae hyd yn oed un drosedd cyllyll yn un yn ormod, ac mae mynd i'r afael â'r niwed a achosir gan droseddau cyllyll yn un o brif flaenoriaethau Heddlu De Cymru.
"Fodd bynnag, rydym hefyd yn benderfynol o fynd i'r afael ag achosion sylfaenol troseddau cyllyll, ac rydym yn gweithio'n agos gydag Uned Atal Trais Cymru a phartneriaid eraill – gan gynnwys gwasanaethau addysg a safonau masnach – fel rhan o ddull iechyd y cyhoedd o ymdrin â phroblem troseddau cyllyll, er mwyn atal pobl rhag cario cyllyll yn y lle cyntaf."
Os ydych yn amau bod rhywun yn cario cyllell, neu'n ymwneud â chyffuriau, gallwch gysylltu â'r heddlu ar 101, neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555111.