Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Ymgyrch Viscaria yn parhau i ddarparu mwy o bresenoldeb plismona er mwyn atal amrywiaeth o broblemau sy'n effeithio ar ganol dinas Abertawe, gan gynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol a dwyn o siopau.
Dyma rai o'r llwyddiannau dedfrydu diweddar gan dîm Ymgyrch Viscaria:
Joshua Hayter – 8 achos o ddwyn o gerbyd a thwyll – dedfryd o 4 mis
Samantha Johnson – 4 achos o ddwyn – dedfryd o 18 wythnos
Ashton Banfield – Achos o ddwyn a dau achos o ymosod – dedfryd ohiriedig o bythefnos
Harry Graham – Achos o ddwyn – dedfryd ohiriedig o 16 wythnos
Mark Davies – 10 achos o ddwyn – dedfryd o 16 wythnos
Dywedodd y Rhingyll James Truscott:
"Dim ond ciplun o'r camau gweithredu cadarnhaol a gymerwyd yn erbyn y bobl hynny sy'n parhau i droseddu yng nghanol y ddinas yw'r euogfarnau hyn.
"Ni fyddwn yn goddef unrhyw drosedd nac ymddygiad gwrthgymdeithasol, a byddwn yn parhau i gymryd camau gweithredu cadarnhaol er mwyn lleihau troseddau a dwyn y troseddwyr o flaen eu gwell yn brydlon.
"Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda busnesau er mwyn eu hannog i roi gwybod am droseddau, ac rydym hefyd yn gwella tactegau atal gyda'r nod o atal troseddau ac yn parhau i fod yn ymrwymedig i wneud Canol Dinas Abertawe yn lle mwy diogel i weithio ynddo ac ymweld ag ef."