Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i farwolaeth dyn 64 oed yn Butetown, Caerdydd.
Mae wedi cael ei adnabod yn ffurfiol fel Mr Ibrahim Yassin.
Cafodd swyddogion yr heddlu eu galw i'w gartref yn Belmont Walk ychydig wedi 9am Ddydd Sul, 18 Chwefror i adroddiad o ymosodiad difrifol.
Cafodd dyn 38 oed ei arestio gerllaw ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Roedd angen triniaeth ysbyty arno ac mae bellach yn y ddalfa yng Ngorsaf Heddlu Bae Caerdydd.
Mae swyddogion cyswllt â theuluoedd arbenigol yn cefnogi ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i deulu Mr Yassin.
Gan dalu teyrnged iddo, rhyddhaodd y teulu'r datganiad canlynol:
“Roedd Mr Ibrahim Yassin yn dad ymroddedig a wnaeth oroesi'n ddewr ar ôl colli ei wraig yn 2008, gan adael eu 11 o blant, a oedd yn cynnwys efeilliaid newydd-anedig.
“Er gwaetha'r ffaith iddo wynebu trallod na ellir ei ddychmygu, roedd yn dad annwyl gyda phlant a oedd yn ei garu'n fawr.
“Roedd yn arweinydd disglair yn eu bywydau, gan gynnig cariad di-ildio, arweiniad a chymorth trwy bob llwyddiant a helynt y gwnaethant eu hwynebu gyda'i gilydd.
“Roedd Mr Yassin yn adnabyddus fel un o hoelion wyth hael a thosturiol y gymuned, a oedd yn barod i roi help llaw bob amser a rhoi cariad ble bynnag yr oedd yn mynd.
“Hyd yn oed wrth i ni alaru ei farwolaeth annisgwyl, bydd gwaddol Ibrahim o gariad ac anhunanoldeb yn parhau i oleuo bywydau pawb a gafodd y fraint o'i adnabod.
“Ond bydd bywydau ei blant a'i wyrion yn cael eu newid am byth. Caiff eu llwybrau eu newid am byth gan yr effaith ddwys o'i golli.”
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Davies, yr Uwch-swyddog Ymchwilio:
“Mae'n amlwg bod marwolaeth Mr Yassin wedi achosi galar a thrallod aruthrol i'w deulu ac i gymuned glos Butetown.
"Mae un dyn yn dal yn y ddalfa ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
“Mae presenoldeb yr heddlu yn parhau yn Butetown wrth i ni symud yr ymchwiliad yn ei flaen.
“Fel bob amser, rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth a dealltwriaeth y gymuned leol yn fawr.”
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru drwy un o'r ffyrdd canlynol gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2400056193.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.