Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am unrhyw dystion i wrthdrawiad ar yr M4 ger cyffyrdd 42 a 43 am 3:10pm ddydd Gwener 26 Ionawr 2024.
Bu farw menyw 53 oed o Mount Pleasant o ganlyniad i'r gwrthdrawiad ac ers hynny, mae wedi cael ei henwi'n Victoria Jones.
Mae teulu Victoria wedi talu'r deyrnged ganlynol iddi:
“Roedd Victoria yn gymdeithasol iawn, a bob amser yn gwenu ac yn hapus gan ei bod wrth ei bodd yn mynd allan yng nghwmni ffrindiau a theulu. Roedd wrth ei bodd yn marchogaeth ac yn nofio yn arbennig.
Bydd teulu a ffrindiau Victoria yn teimlo'r golled ar ei hôl yn fawr”.
Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bod y gwrthdrawiad yn cynnwys pedwar cerbyd, sef Suzuki S-Cross arian, fan Vauxhall Vivaro gwyn, fan Vauxhall Combo gwyn a fan Toyota Proace gwyn.
Mae swyddogion yn apelio am unrhyw dystion a oedd yn teithio ar yr M4 ger cyffyrdd 42 a 43 ar y pryd a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu a allai fod â deunydd fideo o gamera dashfwrdd, i gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 2400030177.