Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i wrthdrawiad angheuol ar yr A4067 Ffordd Castell-nedd, Treforys, am 6:20pm nos Fercher 31 Ionawr. Cafodd menyw 40 oed a oedd yn cerdded ei tharo gan Chevrolet Captiva gwyn.
Bu farw'r fenyw 40 oed o Kharkiv, Wcráin o ganlyniad i'r gwrthdrawiad ac mae wedi cael ei henwi ers hynny yn Tetiana Martynova.
Roedd Tetiana yn y DU ar ôl iddi ffoi o Wcráin pan ymosododd Rwsia ar y wlad ym mis Chwefror 2022.
Mae ei lletywyr wedi talu'r deyrnged ganlynol.
"Roedd Tetiana (a oedd yn cael ei hadnabod yn lleol fel Tania) wedi ffoi o Kharkiv, ei dinas enedigol yn Wcráin, gyda'i mab 13 oed oherwydd y rhyfel parhaus, ac wedi cyrraedd Abertawe ym mis Gorffennaf 2022.
Roedd Tania yn fenyw anhygoel, amlieithog, deallus, llwyddiannus, gweithgar ac ymrwymedig, a bob amser yn dyner ei gofal i Illia.
Roedd yn awyddus i ychwanegu at ei chyflawniad addysgol yma yn Abertawe, gan adeiladu ar ei rhagoriaeth mewn Cyfrifyddiaeth o Wcráin drwy ennill cymwysterau pellach, ac roedd yn gweithio'n galed iawn i gwmni lleol yn Abertawe yn defnyddio ei hystod eang o sgiliau.
Roedd yn un o hoelion wyth y gymuned Wcreinaidd yn Abertawe ac yn chwarae rhan lawn ym mhob un o'i gweithgareddau cymdeithasol a diwylliannol, gan nodi ei herfeiddiad parhaus dros ei Chenedl.
Roedd ei phersonoliaeth gynnes a hyfryd yn llenwi pob digwyddiad.
Cafodd bywydau yma yng Nghymru eu cyfoethogi'n fawr drwy adnabod Tania, ac mae ei ffrindiau niferus a'i chydweithwyr wedi'u llorio gan ei marwolaeth sydyn.
Rydym yn meddwl am Illia yma yng Nghymru, a theulu Tania yn Wcráin, ac yn gweddïo drostynt.
Yn drist, ni fydd breuddwyd Tania o ddychwelyd i Wcráin yr haf hwn yn cael ei wireddu.
Rydym yn ddiolchgar i'r Gwasanaethau Brys a ymatebodd i'r ddamwain ofnadwy hon am eu diwydrwydd a'u gofal, a hefyd am broffesiynoldeb y gofal meddygol a nyrsio yn Uned Gofal Critigol Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Diolch yn fawr i bawb. Rydym wedi ein llorio. Mae ein calonnau wedi'u torri. Roedd Tania fel merch i ni. Mae ein dagrau'n llifo dros fenyw ifanc arbennig iawn. Mae Wcráin wedi colli un o'i goreuon."
Mae swyddogion yn apelio at dystion i'r gwrthdrawiad neu unrhyw un sydd â deunydd fideo o gamera dashfwrdd a all fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu'r hyn a ddigwyddodd cyn hynny, i gysylltu â nhw drwy ffonio 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2400036408.