Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd ymgyrch blismona ar waith yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn (3 Chwefror) ar gyfer diwrnod prysur o rygbi a phrotestio yng nghanol y ddinas.
Bydd presenoldeb plismona amlwg yn y ddinas wrth i swyddogion weithio i sicrhau y gall ymwelwyr fwynhau eu hymweliad yn ddiogel.
Nod yr ymgyrch blismona fydd hwyluso protestio cyfreithlon, gan sicrhau ei fod yn tarfu cyn lleied â phosibl ar y cyhoedd yn fwy cyffredinol.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Esyr Jones: “Mae plismona protestiadau yn gymhleth a ddydd Sadwrn bydd y dimensiwn ychwanegol o filoedd o bobl yn ymweld â chanol y ddinas ar ddiwrnod gêm rygbi ryngwladol.
“Mae Heddlu De Cymru yn cefnogi hawl pobl i leisio eu barn drwy brotestio ar yr amod eu bod yn gwneud hynny yn gyfreithlon. Mae penderfyniadau ynghylch sut i blismona protestiadau yn gofyn am ystyried hawliau a materion cymhleth sydd, yn aml, yn mynd yn groes i'w gilydd.
“Nod ein presenoldeb plismona yw sicrhau y gall pawb fynd ynglŷn â'u pethau yn ddiogel a bod unrhyw brotestio yn gyfreithlon ac yn heddychlon.”
Bydd Swyddogion Cyswllt yr Heddlu, y gellir eu hadnabod gan eu tabardiau cyswllt protest glas, wrth law i ymgysylltu â'r rhai sy'n cymryd rhan yn y brotest.
Mae'r swyddogion hyn wedi cael hyfforddiant arbenigol i ymgysylltu â thorfeydd a sicrhau bod gwybodaeth yn llifo rhwng swyddogion yr heddlu, aelodau o'r dorf ac unigolion eraill drwy gydol y digwyddiad er mwyn helpu i gadw'r cyhoedd yn ddiogel a chynnal protest heddychlon yn effeithiol.
Ychwanegodd yr Uwch-arolygydd Jones: “Rydym yn ymwybodol y gall y gwrthdaro sy'n mynd rhagddo yn y Dwyrain Canol a'r protestio rydym wedi'i weld yng Nghaerdydd ac Abertawe gyfrannu at ofn a phryder, yn enwedig ymhlith ein cymunedau Iddewig a Mwslimaidd. Gall gweld protestio ar raddfa fawr hefyd godi ofn ar aelodau o'r cyhoedd sy'n digwydd bod yn y cyffiniau.
“Dyna pam y byddwn yn ceisio sicrhau cydbwysedd o ran ein dull plismona a chymryd camau er mwyn sicrhau bod hawliau pawb yn cael eu parchu a'u diogelu. Fodd bynnag, lle y bo'n briodol, mae'n bosibl y byddwn yn cymryd camau ôl-weithredol yn erbyn unrhyw un sy'n torri'r gyfraith.”