Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae protest a gynlluniwyd ymlaen llaw ym Mae Caerdydd wedi dod i ben yn heddychlon heb darfu llawer ar y cyhoedd.
Roedd ymgyrch blismona ar waith drwy gydol y brotest a ddenodd tua 3,000 o bobl y tu allan i'r Senedd.
Darparwyd llwybr wedi'i gymeradwyo i'r cyfranogwyr a oedd yn gyrru cerbydau amaethyddol, ynghyd ag ardal parcio ac aros ddynodedig ar yr A4232 Ffordd Gyswllt Dwyrain y Bae.
Cafodd hyn ei hwyluso gan orchymyn o dan Adrannau 12 a 14 o Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986.
Gwnaed y penderfyniad hwn er mwyn hwyluso dymuniadau'r protestwyr i gynnal protest heddychlon, gan gydbwyso diogelwch y cyhoedd ehangach.
Ailagorwyd y ffordd tua 3pm.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Esyr Jones: “Mae Heddlu De Cymru yn parchu'r hawl i brotestio'n heddychlon, ac yn dilyn trafodaeth â'r trefnwyr, bu modd i ni sicrhau bod y brotest yn cael ei chynnal yn ddiogel ac yn gyfreithlon, gan darfu cyn lleied â phosibl ar y cyhoedd ehangach.
"Mae dod â thractorau a cherbydau amaethyddol eraill i amgylchedd dinas brysur yn peri risg i ddiogelwch defnyddwyr ffyrdd eraill, a gallai gyfyngu ar symudiad y gwasanaethau brys.
"Fodd bynnag, drwy weithio gyda threfnwyr y brotest a Chyngor Caerdydd, cafodd ardal aros addas ei nodi gan olygu nad oedd fawr ddim tarfu nac oedi ar y llwybrau o amgylch Bae Caerdydd nac ar draws rhwydwaith ffyrdd ehangach De Cymru."