Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn ymwybodol o brotest y bwriedir ei chynnal ym Mae Caerdydd ddydd Mercher, 28 Chwefror.
Disgwylir i'r brotest, sy'n dechrau am 12.30pm, ddenu niferoedd mawr a gall hefyd achosi traffig araf ar y ffyrdd i Fae Caerdydd ac ar draws rhwydwaith ffyrdd ehangach De Cymru.
Nid yw maint yr oedi i ddefnyddwyr ffyrdd eraill yn glir ar hyn o bryd, ond fel heddlu, rydym yn monitro'r sefyllfa yn agos.
Bydd ymgyrch blismona ar waith yn ystod y brotest a byddwn yn mynd ati i leihau'r tarfu ar y cyhoedd lle bynnag y bo'n bosibl. Nid oes cynlluniau i gau ffyrdd ond bydd mynediad i rai ffyrdd o amgylch y Senedd yn cael ei reoli.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Esyr Jones: “Mae Heddlu De Cymru yn parchu'r hawl i brotestio'n heddychlon ac rydym wrthi'n trafod â'r trefnwyr er mwyn sicrhau bod y brotest yn cael ei chynnal yn ddiogel ac yn gyfreithlon, gan darfu cyn lleied â phosibl ar y cyhoedd ehangach.
“Er bod cytundeb i hwyluso'r brotest y tu allan i'r Senedd, byddwn yn annog protestwyr i beidio â dod â thractorau nac unrhyw gerbydau amaethyddol i'r brotest. Mae pryderon eu bod yn peri risg i ddiogelwch defnyddwyr ffyrdd eraill ac yn cyfyngu ar symudiad gwasanaethau brys mewn amgylchedd dinas prysur.
“Byddwn yn monitro'r sefyllfa drwy'r dydd a dylai modurwyr gadw llygad am wybodaeth am unrhyw darfu ar y rhwydwaith ffyrdd a chynllunio eu teithiau yn unol â hynny. Byddwn yn rhoi gwybod i'r cyhoedd am unrhyw oedi neu darfu drwy gydol y dydd.”