Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd dyn o Birmingham a oedd wedi gwneud cynlluniau i dreisio plant rhiant yr oedd wedi bod yn anfon negeseuon ato ar-lein ei arestio ac ymchwiliwyd iddo o ganlyniad i waith partneriaeth rhwng Tarian, yr Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol ar gyfer de Cymru a Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr.
Ym mis Mehefin 2023, dechreuodd Christopher Brand, 62 oed, o Thatchway Gardens, Birmingham, sgwrs ar-lein ag oedolyn. Credai fod gan yr oedolyn ddau blentyn ifanc iawn. Gwnaeth Brand gynlluniau i fynd i leoliad y tu allan i Birmingham un penwythnos gyda'r bwriad o dreisio'r ddau blentyn.
Yn ddiarwybod i Brand, swyddog heddlu gyda Tarian oedd yr oedolyn a fu'n monitro ei weithgarwch ar-lein, a fu'n cyfathrebu â Brand. Ar ôl ei adnabod, rhannodd Tarian y gudd-wybodaeth â chydweithwyr yn Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr a arestiodd Brand ar 22 Mehefin y llynedd.
Yn Llys y Goron Birmingham ddydd Mawrth 23 Ionawr 2024, cafwyd Brand yn euog o ddau achos o drefnu/hwyluso comisiynu trosedd rywiol gyda phlentyn, a chafodd ddedfryd o 11 mlynedd a 21 mlynedd, yn y drefn honno. Cafwyd Brand hefyd yn euog o un achos o gyhoeddiad anllad, a chafodd dedfryd o 12 mis. Bydd yn bwrw ei ddedfrydau ar yr un pryd.
Dywedodd Ditectif Arolygydd Rich Davies o Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian: “Mae'n flaenoriaeth wirioneddol gennym ddiogelu plant yn ein cymunedau a'u cadw'n ddiogel, ac rwy'n ddiolchgar i'n swyddogion a'n cydweithwyr yn Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr am eu gwaith ymchwilio trylwyr i'r achos gwarthus hwn. Bydd erlyniad a chollfarn llwyddiannus Christopher Brand, rheibiwr rhywiol peryglus iawn, yn sicrhau y caiff plant agored i niwed eu hamddiffyn rhag y risgiau yr oedd yn eu cyflwyno.
Os ydych chi wedi dioddef camdriniaeth, neu'n credu eich bod yn adnabod rhywun sy'n cael ei gam-drin, ewch i https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cyngor/cyngor-a-gwybodaeth/caa/cam-drin-plant/camfanteision-rhywiol-ar-blant/ i gael rhagor o wybodaeth am y broses o roi gwybod i ni. Byddwn bob amser yn ymchwilio i honiadau o gamdriniaeth, ni waeth pryd y gwnaethant ddigwydd.”