Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ymgyrch genedlaethol yr heddlu i fynd i'r afael â gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau wedi gweld canlyniadau uchel cyson am yr ail flwyddyn yn olynol.
Mae ymgyrch genedlaethol yr heddlu i fynd i'r afael â gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau wedi gweld canlyniadau uchel cyson am yr ail flwyddyn yn olynol, gyda dros 6,600 o fodurwyr wedi cael eu harestio am droseddau.
Mae nifer o heddluoedd yn ymgymryd ag ymgyrch ragweithiol dros gyfnod y Nadolig bob blwyddyn er mwyn cynyddu niferoedd y profion anadl a gynhelir ac achosion o stopio cerbydau wedi'u targedu ar gyfer gyrwyr yr amheuir eu bod dan ddylanwad alcohol a chyffuriau. Cynhaliwyd yr ymgyrch genedlaethol gyntaf dros gyfnod y Nadolig yn 2022, sef Ymgyrch Limit, er mwyn cydlynu'r gweithgarwch hwn ledled y wlad, gan ddod â phob un o'r heddluoedd ynghyd mewn ymdrech ar y cyd i rwystro gyrwyr dan ddylanwad alcohol a chyffuriau rhag gyrru ar ein ffyrdd.
Cymerodd pob un o'r heddluoedd ran yn yr ymgyrch yn 2023, gan gymryd rhan mewn digwyddiadau ymwybyddiaeth ac addysgol, cyfathrebu am y risgiau sy'n gysylltiedig â gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau, cynnal prosesau stopio cerbydau wedi'u targedu mewn ardaloedd problemus a chynnal patrolau wedi'u harwain gan gudd-wybodaeth.
Cynhaliwyd bron i 50,000 o brofion anadl (49,812) a chafodd bron i 10% (9.5) o'r rhai a brofwyd ganlyniad positif, neu fethu'r prawf neu wrthod ymgymryd ag ef. Cynhaliwyd 6,846 o brofion cyffuriau gyda bron i 50% (48.5) yn cael canlyniad positif.
Dynion oedd 84% o'r troseddwyr gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau ac roedd 74% o’r troseddwyr hynny yn 25 oed a throsodd. Arestiwyd 6,616 o bobl am droseddau gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau a chyhuddwyd 1,589 o unigolion.
Nid oedd yn ofynnol i heddluoedd roi gwybod am yr unigolion a gafodd eu cyhuddo yn ystod Ymgyrch Limit 2022, felly ni ellir cymharu â ffigur cyhuddiadau 2023.
Cynhaliodd swyddogion Heddlu De Cymru 3,145 o brofion anadl a 203 o brofion cyffuriau fel rhan o'r ymgyrch genedlaethol.
Canfuwyd bod 157 o yrwyr dros y terfyn yfed a gyrru, a chafodd 87 o'r rheini a brofwyd am gyffuriau ganlyniad positif.
Dywedodd Michael Prickett, Arolygydd Plismona Ffyrdd:
"Rwy'n falch iawn o'm swyddogion am eu gwaith yn tynnu'r gyrwyr hyn oddi ar y strydoedd.
"Roedd hwn yn gyfnod eithriadol o brysur, gyda chynnydd o 2.6% mewn arestiadau yn sgil gyrru dan ddylanwad alcohol, a chynnydd o 70% mewn arestiadau yn sgil gyrru dan ddylanwad cyffuriau ers 2022.
"Yn anffodus, mae llawer o bobl yn parhau i ddewis gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau, a chaiff hyn effaith ddinistriol ar gymunedau ac unigolion.
"Er bod cyfnod y Nadolig drosodd, bydd swyddogion yn parhau i fynd ar ôl y rheini sy'n benderfynol o dorri'r gyfraith.
“Os canfyddir eich bod dros y terfyn ar gyfer yfed a gyrru, a/neu eich bod yn gyrru dan ddylanwad cyffuriau, gallwch gael cofnod troseddol yn ogystal â dedfryd o hyd at chwe mis yn y carchar, dirwy ddiderfyn, a chael eich gwahardd yn awtomatig rhag gyrru am flwyddyn o leiaf.”
Stori Mike
Ddydd Nadolig y llynedd, roedd Mike Fealey yn paratoi at dreulio'r diwrnod gyda'i dad, Ron, a gweddill y teulu, yn ôl y traddodiad blynyddol.
Ar ôl agor anrhegion gyda'i ŵyr, roedd Mike yn disgwyl i Ron ymuno â nhw yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw i barhau â'r dathlu.
Erbyn canol y bore, cafodd y teulu wybod bod Ron wedi bod mewn damwain y noson flaenorol ar ei ffordd adref o'r eglwys. Roedd yn ddifrifol wael yn Ysbyty Athrofaol Cymru, ac roedd angen iddynt fynd yno cyn gynted â phosibl.
Ddydd San Steffan, bu'n rhaid i Mike a'i deulu ffarwelio â Ron ar ôl iddynt wneud y penderfyniad anodd i ddiffodd ei beiriant cynnal bywyd.
Roedd Ron, a oedd yn 82 oed ac yn nyrs wedi ymddeol, yn mwynhau treulio amser gyda'i wyrion a'i wyresau, a'i or-wyrion a'i or-wyresau, yn ogystal â mynd i'r gampfa ddwywaith yr wythnos. Roedd yn aelod gweithgar o bwyllgor Clwb Rygbi Dowlais ac yn drysorydd Capel Sant Illtud yn Nowlais.
Ar Noswyl Nadolig y llynedd, cafodd ei daro gan yrrwr meddw ym Merthyr Tudful, wrth iddo gerdded adref o'r Offeren.
“Roedd y ffaith bod y ddamwain wedi digwydd fel y gwnaeth yn teimlo fel cymaint o wastraff.
“Roedd yn cerdded adref o'r eglwys, a daeth y person yma a'i daro heb unrhyw reswm ar y groesfan sebra, felly roedd yn teimlo fel cyfres o benderfyniadau ofnadwy a arweiniodd at farwolaeth fy nhad.
“Byddai'r Nadolig fel arfer yn rhywbeth i edrych ymlaen ato, ond nawr mae ymdeimlad o ofn yn perthyn iddo, oherwydd rydych chi'n gwybod beth sy'n dod a phwy fydd ddim yno.
Ychwanegodd Mike, “Os oes unrhyw un yn penderfynu yfed a gyrru, neu gymryd cyffuriau a gyrru, does neb ar ei ennill”.
“Mewn mater o eiliadau, gallech ddifetha eich bywyd chi eich hun, a bywyd rhywun arall.”