Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd Thomas Love, a ymosododd yn greulon ar ei “ffrind”, gan gynnwys ei ddyrnu 41 o weithiau yn ei ben, am saith mlynedd a thri mis.
Ar 9 Hydref 2023, ychydig ar ôl hanner nos, ymosododd Thomas Love o Trowbridge, Caerdydd, 53 oed, yn ddifrifol ar ei 'ffrind' y tu allan i Tesco, Llaneirwg, Caerdydd. Parodd yr ymosodiad am fwy na 16 munud, wrth i Love ddyrnu'r dioddefwr 41 o weithiau yn ei ben, ei wyneb a'i gorff, ei gicio 14 o weithiau a'i daro yn ei ben chwe gwaith â seinydd.
Gadawyd y dioddefwr yn anymwybodol a daeth aelod o'r cyhoedd o hyd iddo yn ddiweddarach ger Tesco, gyda'i wyneb yn waed i gyd. Roedd y dioddefwr wedi torri sawl asgwrn yn ei wyneb a nifer o asennau, ac roedd ei ysgyfaint wedi ymgwympo, a bu'n rhaid iddo gael llawdriniaeth dros gyfnod o 12 diwrnod yn yr ysbyty o ganlyniad i'w anafiadau. Mae'r ymosodiad wedi cael effaith barhaus ar y dioddefwr, yn gorfforol ac yn seicolegol.
Wrth i swyddogion gael eu galw at y dioddefwyr, cawsant ail alwad am ymosodiad arall a oedd wedi digwydd ger Tesco ar Ferntree Drive, Llaneirwg.
Roedd Love wedi gadael Tesco ac wedi cerdded at Ferntree Drive lle ymosododd ar ddioddefwr arall. Roedd Love wedi mynd i mewn i'r eiddo ac wedi ymosod ar y dioddefwr drwy ei ddyrnu yn ei wyneb a cheisio cafnu ei lygaid. Llwyddodd yr ail ddioddefwr i redeg allan o'r tŷ a ffoi i gyfeiriad ffrind gerllaw lle galwodd yr heddlu. Roedd gan yr ail ddioddefwr doriadau a chleisiau o ganlyniad i'r ymosodiad.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Alex Lloyd “Diolch byth bod yr ymosodiad cyfan wedi'i ddal ar Deledu Cylch Cyfyng, gan ein galluogi i adnabod, arestio a chyhuddo Love.
Gellir disgrifio Love yn berygl i'r cyhoedd ac mae'r ddedfryd a roddwyd gan y barnwr yn adlewyrchu hyn.”
Cafodd Love ei ddedfrydu ddydd Iau 8 Chwefror yn Llys y Goron Caerdydd, ar ôl iddo bledio'n euog. Cafodd ei ddedfrydu i saith mlynedd a thri mis yn y carchar a phedair blynedd arall ar drwydded