Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 39 oed o'r Barri wedi cael ei wneud yn destun Gorchymyn Amddiffyn rhag Stelcian am ffonio ei gyn-bartner bron 400 gwaith y dydd.
Dywedodd Llys Ynadon Caerdydd ei fod wedi ymgysylltu mewn ymgyrch frawychus o stelcian a bygwth ei gyn-bartner.
Mae'r gorchymyn pum mlynedd, a roddwyd iddo 18 Ionawr 2024, yn rhoi'r amddiffyniad angenrheidiol i'r dioddefwraig a'i phartner newydd.
Fel rhan o'r Gorchymyn Amddiffyn rhag Stelcian, ni ddylai fynd at y rhai sydd wedi'u henwi yn y gorchymyn, na chysylltu â nhw na'u cuddwylio.
Dywedodd Elinor Spiers-Morgan, Cydgysylltydd Stelcian Heddlu De Cymru: "Roedd ymddygiad y dyn yn obsesiynol ac yn ddigroeso.
"Ar un adeg ffoniodd ei gyn-bartner bron 400 gwaith o rif anhysbys mewn un diwrnod, rhoddodd olrheiniwr ar ei char, ac ar adeg arall, fe'i gwelwyd ar deledu cylch cyfyng yn mynd i'w chartref ac yn pipian drwy'r ffenestri.
"Rydym yn gobeithio y bydd y Gorchymyn Amddiffyn rhag Stelcian yn rhoi digon o sicrwydd a hyder iddi barhau â'i bywyd bob dydd gan wybod bod y cam amddiffyn ychwanegol hwn ar waith."
Mae torri Gorchymyn Amddiffyn rhag Stelcian yn drosedd a gall arwain at ddedfryd yn y carchar am hyd at bum mlynedd.
Mae Heddlu De Cymru yn ymrwymedig i ddiogelu dioddefwyr, dwyn troseddwyr i gyfrif ac atal cylch o aildroseddu ac erledigaeth.
Mae Gorchymyn Amddiffyn rhag Stelcian yn un dull sydd ar gael i ni a bydd yn cael ei roi mewn grym.
Rydym yn cydnabod y gall cysylltu â ni a gofyn am gymorth fod yn gam ofnus ac yn gofyn am ddewrder.
Os ydych chi wedi wynebu ymddygiad obsesiynol a digroeso sydd wedi eich dychryn ac wedi achosi gofid i chi, rhowch wybod i ni.
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Rhoi gwybod ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio
📧 E-bost [email protected]
📞 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.