Stamp amser presennol: 23/06/25 09:52:38
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police force crest / Arwyddlun Heddlu De Cymru

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio am berson sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth 2024

Cynnwys y prif erthygl

Y diweddaraf
Cyhoeddwyd: 14:00 09/02/24

Mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth yn gyfle i ni ddathlu menywod ym mhob rhan o'r sefydliad sy'n gweithio mewn rolau sy'n gysylltiedig â Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (#STEM) er mwyn helpu i Gadw De Cymru yn Ddiogel.

Mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth yn gyfle i ni ddathlu menywod ym mhob rhan o'r sefydliad sy'n gweithio mewn rolau sy'n gysylltiedig â Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) er mwyn helpu i Gadw De Cymru yn Ddiogel.

“Hoffwn ddiolch yn bersonol i’n holl gydweithwyr benywaidd yma yn Heddlu De Cymru sy’n gweithio mewn rolau cysylltiedig â Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM). Ar ddechrau fy ngyrfa, ni allwn fod wedi rhagweld pwysigrwydd y datblygiadau a wnaed I helpu gadw De Cymru yn ddiogel.

“Ein pwrpas yw erlid troseddwyr, blaenoriaethu dioddefwyr, ac amddiffyn pobl fregus ac mae defnyddio STEM o fewn plismona yn sicrhau ymchwiliadau gwell. Er enghraifft, y llynedd gwelsom ddatblygiadau mewn gwyddoniaeth fforensig yn ein helpu i ddatrys achos o dreisio o'r 1980au. Mae hyn wedi darparu  rhywfaint o gyfiawnder i'r dioddefwr, ac o bosibl amddiffyn eraill rhag niwed.

“Mae’r datblygiad parhaus yn y meysydd hyn wedi creu buddion sefydliadol sylweddol a chyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus i’n swyddogion, staff a gwirfoddolwyr. Rhaid inni sicrhau bod ein gweithlu’n gynrychioliadol o’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, ac rydym yn benderfynol o gynyddu nifer y menywod sy’n gweithio o fewn y rolau hyn. Dyna pam ei bod yn bwysig inni ddathlu cyflawniadau’r holl fenywod mewn rolau sy’n ymwneud â STEM ledled Heddlu De Cymru.” Uwcharolygydd Eve Davis, Arweinydd Rhyw, Heddlu De Cymru.

 

Mae Amy yn gweithio yn ein Huned Ymchwilio Gwyddonol ar y Cyd ac roedd yn rhan o'r tîm a helpodd i ddod â chyfiawnder i ddioddefwr trais rhywiol a ddigwyddodd yn 1980, fwy na 40 mlynedd yn ddiweddarach.

“Rwy'n wyddonydd fforensig sy'n gweithio yn y labordai glanhau DNA. Ochr yn ochr ag achosion cyfredol, rwyf hefyd yn helpu'r tîm adolygu gydag achosion heb eu datrys. Roedd yr achos penodol hwn yn llwyddiant ysgubol, ac mae'n dangos pa mor ymrwymedig ydym i ddatrys hyd yn oed y troseddau hynach nad ydynt yn sicr yn mynd yn angof.

“Wrth i dechnoleg, prosesau labordy a gwaith proffilio DNA ddatblygu, roedd hwn yn un o'r achosion a gafodd ei adolygu, ac oherwydd bod rhai o'r arddangosion wedi cael eu cadw o'r ymchwiliad cyntaf yn 1980, roedd modd i ni archwilio'r eitemau gan ddefnyddio'r dechnoleg sydd gennym heddiw a dod o hyd i broffil DNA y troseddwr. Gan ddefnyddio'r gronfa ddata DNA i chwilio am gyfatebiadau posibl, gwnaethom adnabod y troseddwr a'i ddwyn gerbron llys barn fwy na 40 mlynedd ar ôl y drosedd.”

Mae Ailsa wedi gweithio yn ein Huned Ymchwilio Gwyddonol ar y Cyd (JSUI) ers saith mlynedd a hi yw'r yw'r fenyw gyntaf i fod yn Dechnegydd Fideo Fforensig yn yr heddlu.

“Rwy'n gweithio fel Technegydd Fideo Fforensig yn Uned Delweddu Fforensig JSIU. Rydym yn gwasanaethu ardaloedd Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent ac rwy'n casglu deunydd fideo teledu cylch cyfyng o leoliadau a safleoedd, yn ogystal â phrosesu deunydd sain a fideo yn y swyddfa ar gyfer y llys. Gall hyn gynnwys amlygu, niwlo a chwyddo.

“Mae ein rôl yn cynnwys archwilio, adfer a phrosesu pob math o ddeunydd fideo a sain tystiolaethol – o ddeunydd oddi ar gamerâu a wisgir ar y corff a ffonau symudol i waith gwella sain. Gall ein rôl olygu bod angen i ni fynd i amgylcheddau eithaf heriol, ond rwyf wrth fy modd!

“Gan mai uned ar y cyd ydym, mae'r rôl yn golygu fy mod yn teithio ar hyd a lled ardaloedd Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru. Mae'r cyfan yn dibynnu ar ble y byddaf yn cael fy ngalw mewn diwrnod.  Rwyf hefyd yn hoffi'r ffaith fy mod yn gweld rhywbeth newydd bob dydd, a bod pob diwrnod yn wahanol. Mae teledu cylch cyfyng ym mhobman erbyn hyn; o gartrefi, i ffyrdd, i fusnesau, ac mae'n fath effeithiol iawn o dystiolaeth weledol, felly mae'n bwysig bod y deunydd fideo yn cael ei gasglu a'i brosesu'n gywir. Rwy'n hoffi teimlo fy mod yn gwneud gwahaniaeth er budd dioddefwyr troseddau ac ymchwiliadau. Fi yw'r fenyw gyntaf i fod yn Dechnegydd Fideo Fforensig yn ein heddluoedd, ac mae wedi bod yn wych gweld mwy o fenywod yn ymuno â'r uned dros y blynyddoedd.

“Fel menyw mewn rôl STEM ym maes plismona, rwyf wrth fy modd yn gwneud fy ngwaith. Mae'n ymwneud â gwyddoniaeth dechnegol ddiddorol iawn sy'n esblygu o hyd wrth i dechnolegau a meddalwedd newydd gael eu datblygu. Mae ein diwydiant yn gallu cael ei ddominyddu gan ddynion weithiau, ac rwy'n credu bod hynny'n deillio o'r ffaith bod mwy o fechgyn yn astudio TGCh yn yr ysgol ac yn dilyn gyrfa yn y maes hwnnw na merched. Does gen i ddim cefndir gwyddonol mewn gwirionedd; Mae gen i radd mewn Hanes ac rwy'n teimlo bod hynny wedi rhoi sylfaen dda i mi allu ymchwilio'n drylwyr, amddiffyn fy nghanfyddiadau a gallu llunio adroddiadau'n gywir.

“Byddwn yn annog unrhyw un sy'n ystyried gyrfa ym maes fforenseg i gofio nad yw o reidrwydd y tu hwnt i'ch cyrraedd dim ond am na wnaethoch astudio'r gwyddorau!”

 

 

Mae Abbi yn un o'n Hymchwilwyr Safleoedd Troseddau Cyffredin.

“Rwy'n archwilio safleoedd troseddau cyffredin fel bwrgleriaethau yn annibynnol, ac yn cynorthwyo ar safleoedd troseddau mawr a difrifol. Rwy'n mwynhau amrywiaeth fy rôl, gan fod pob diwrnod yn wahanol.

“Roeddwn yn meddwl bod gyrfa ym maes STEM y tu hwnt i'm cyrraedd gan nad oeddwn wedi astudio'r gwyddorau, ond drwy'r profiad gwaith roeddwn wedi ei gronni ym maes archaeoleg, bu modd i mi ddangos bod gennyf sgiliau trosglwyddadwy yn fy nghais.

“Am yrfa sy'n eich herio i addasu a meddwl yn ddynamig drwy'r amser, yn cynnig amgylchedd dysgu parhaus ni waeth ers faint o flynyddoedd rydych wedi bod yn gwneud y swydd ac yn gwerthfawrogi cydweithwyr benywaidd, byddwn yn ddi-os yn argymell Ymchwilio Safleoedd Troseddau.”

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2024. Cedwir pob hawl.