Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae pedwar dyn o Gaerdydd wedi cael eu heuogfarnu o droseddau'n ymwneud â chyffuriau a'u hanfon i'r carchar am gyfanswm o fwy na 23 mlynedd.
Ffurfiodd y dynion Grŵp Troseddau Cyfundrefnol a oedd yn defnyddio ffonau wedi'u hamgryptio er mwyn hwyluso'r gwaith o fewnforio a dosbarthu symiau sylweddol o gyffuriau dosbarth A i ardal De Cymru.
Lansiwyd yr ymchwiliad – a elwir yn Ymgyrch Falco – ym mis Ebrill 2020 ar ôl i Tarian, yr uned troseddau cyfundrefnol rhanbarthol ar gyfer De Cymru, dderbyn cudd-wybodaeth gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a oedd yn cynnwys negeseuon yn cael eu hanfon rhwng aelodau'r Grŵp Troseddau Cyfundrefnol a phartneriaid.
Roedd un o gwsmeriaid rheolaidd y Grŵp Troseddau Cyfundrefnol yn defnyddio'r enw ‘mercifulalpha’. Yn ddiweddarach, nodwyd mai ei enw yw Cameron Williams o ardal Trelái yng Nghaerdydd.
Roedd Williams yn delio mewn sawl cilogram o gyffuriau ac roedd yn cyflenwi cocên yn bennaf. Roedd yn prynu rhwng 1 a 3 cilogram o gocên ar y tro gan eu rhannu ar gyfer eu cyflenwi.
Mae'r negeseuon yn dangos bod Williams wedi cael o leiaf 16 cilogram o gocên ac 1 cilogram o heroin gan ei gyflenwyr. Gwnaethant hefyd ddangos bod ganddo ddyled heb ei thalu o £45,755 ar ôl ad-dalu'r mwyafrif o ddyled gychwynnol o £283,500. Roedd perthynas gadarn rhyngddo ef a'i gyflenwyr a threfnodd Williams i rywun gasglu'r cyffuriau ganddynt ar dair adeg.
Plediodd Cameron Williams yn euog i gynllwynio i gyflenwi cocên a heroin ac mae wedi bod ar remand ers 2021, yn aros am ddedfryd.
Roedd Craig Williams, hefyd o ardal Trelái, yn gludwr a ddefnyddiodd Cameron Williams i gasglu heroin o Lerpwl ddwywaith ym mis Ebrill 2020, gan gludo pum cilogram yn ôl i Gaerdydd.
Ym mis Rhagfyr 2022 nid oedd Craig Williams yn bresennol yn Llys y Goron Caerdydd ar gyfer ei dreial, a rhoddwyd gwarant o'r Fainc i'w arestio. Canfuwyd ei fod wedi ffoi o'r DU gan deithio i UDA.
Drwy weithio ar y cyd â'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a'r DEA, daethpwyd o hyd i Williams yn sydyn a rhoddwyd gwarant yn UDA. Fodd bynnag, roedd eisoes wedi ffoi o'r wlad, gan ddychwelyd i'r DU. Cafodd ei arestio ychydig o ddiwrnodau'n ddiweddarach yn y Barri ac mae wedi cael ei gadw yn y ddalfa. Plediodd Craig Williams yn euog ar ddiwrnod cyntaf ei dreial.
Nodwyd hefyd fod Cameron Williams wedi defnyddio David Osborne o Drelái i gasglu cocên gan ei gyflenwr uwch. Ar 15 Mai 2020 teithiodd Osborne i gyfeiriad yng Nghasnewydd gan gasglu 3 cilogram o gocên i Cameron Williams.
Ym mis Tachwedd 2020, cafodd Osborne ei arestio am ei ran yn y broses o gasglu cocên ar 15 Mai 2020.
Wrth chwilio ei gartref, atafaelwyd cocên a chlorian ddigidol â chocên ar y badell bwyso a sawl bag selio heb eu defnyddio.
Roedd ffôn symudol yn perthyn i Osborne yn cynnwys tystiolaeth ei fod yn casglu symiau cyfanwerthol o gocên ac yn rhan o'r broses o ddelio ynddo ar lefel is.
Roedd y negeseuon ar ei ffôn yn dangos ei fod yn cynnal y gwaith delio ar lefel is mewn partneriaeth â chyswllt a nodwyd fel Daniel Lovell.
Plediodd Osborne yn euog yn gynnar mewn perthynas â delio ar lefel is ond plediodd yn 'ddieuog' i gasglu 3 cilogram o gocên. Newidiwyd y ple i euog ar ddiwrnod cyntaf y treial.
Roedd Daniel Lovell, pedwerydd aelod o'r Grŵp Troseddau Cyfundrefnol yn gweithio gyda David Osborne i ddelio mewn cocên ar lefel is a chafodd ei adnabod drwy archwilio'r ffôn symudol a atafaelwyd gan Osborne. Plediodd Lovell yn euog yn gynnar mewn perthynas â'i ran yn y brose o gyflenwi cocên.
Ddydd Mercher, 14 Chwefror, dedfrydwyd Cameron Williams, 24 oed, yn Llys y Goron Casnewydd i 11 mlynedd yn y carchar.
Ar yr un diwrnod, dedfrydwyd Craig Williams, 39 oed, i chwe blynedd a phedwar mis yn y carchar.
Ddydd Gwener, 9 Chwefror, dedfrydwyd David Osborne, 40 oed, i chwe blynedd a phedwar mis yn y carchar.
Hefyd, ar 9 Chwefror, cafodd Daniel Lovell, 34 oed, ddedfryd o 18 mis wedi'i gohirio am ddwy flynedd.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Ian Morgan o Tarian:
"Gwaith trawsffiniol Tarian sy'n ein galluogi i ddod throseddwyr fel y rhain o flaen eu gwell.
"Rwy'n gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn rhoi neges glir i'r rhai sy'n meddwl eu bod uwchlaw'r gyfraith, ac i'r rhai sy'n gweld delio mewn cyffuriau yn ffordd gyflym o wneud lawer o arian.
"Dim ond mater o amser yw hi nes bydd Grwpiau Troseddau Cyfundrefnol fel y rhain yn cael eu dal ac rydym yn gweithio'n ddiflino, ochr yn ochr â’n heddluoedd lleol ac asiantaethau gorfodi'r gyfraith ledled y DU, i sicrhau bod hyn yn digwydd.
"Mae cyffuriau'n achosi gofid diddiwedd yn ein cymunedau a byddem yn annog unrhyw un sy'n amau bod gweithgarwch anghyfreithlon sy’n ymwneud â chyffuriau yn mynd rhagddo yn ei gymuned i gysylltu â’r heddlu a rhoi unrhyw wybodaeth sydd ganddo i ni."
Ewch i:
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.