Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Ibrahim Yassin, 64 oed, yn Belmont Walk, Butetown, Caerdydd.
Bydd Mujeeb Rahman Hassani, 38 oed, o Butetown, yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd yfory (dydd Iau, 22 Chwefror).
Mae swyddogion cyswllt â theuluoedd arbenigol wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i deulu Mr Yassin ac yn parhau i'w cefnogi.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Davies, yr Uwch-swyddog Ymchwilio:
“Mae marwolaeth Mr Ibrahim Yassin wedi achosi galar a thrallod aruthrol i'w deulu ac i gymuned glos Butetown. Rydym yn meddwl am ei deulu a'i ffrindiau ar yr adeg anodd hon.
“Mae nifer o swyddogion yr heddlu wedi bod yn bresennol yn Butetown yr wythnos hon, a hoffem ddiolch i'r gymuned leol am ei chefnogaeth a'i dealltwriaeth yn ystod ein hymchwiliad.”
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru drwy un o'r ffyrdd canlynol gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2400056193.
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Cysylltwch â ni drwy https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
📧 E-bost [email protected]
📞 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.