Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Am 4am fore Sadwrn 28 Hydref, gwelodd gweithredwr Camera Teledu Cylch Cyfyng ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Skoda Arian yn cael ei yrru gan Joshua Allegretto, 31 oed, yn tynnu i mewn ar Highland Place, Pen-y-bont ar Ogwr, agor bonet y car a thynnu can diaroglydd Lynx a oedd o dan yr hidlwr aer.
Gellir ei weld yn tynnu eitemau allan o'r can Lynx ac yna'n mynd yn ôl i eistedd yn sedd y gyrrwr. Wedyn gwelir dau ddieithryn yn mynd at y car ac yn talu Allegretto gyda cherdyn banc yn gyfnewid am fag llawn powdr gwyn.
Llwyddodd swyddogion i ddilyn y car a dal Allegretto yn ddiweddarach y noson honno i'w chwilio. Daethpwyd o hyd i 28 o fagiau o gocên yn y can Lynx a oedd wedi'i guddio yn y bonet.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Ian Jones:
"Roedd ymddygiad hy Joshua Allegretto yn yr achos hwn yn tynnu sylw at y ffordd mae delwyr cyffuriau'n meddwl y gallant weithredu'n agored ac yn anghyfreithlon yn ein cymunedau. Byddwn yn parhau i fynd i'r afael â chyflenwi cyffuriau anghyfreithlon ac yn mynd ar drywydd y rhai sy'n cyflawni'r troseddau hynny yn ddiflino."
Cafodd Allegretto ei arestio a’i gyhuddo o ymwneud â chyflenwi cyffuriau rheoledig dosbarth A. Plediodd yn euog mewn treial yn Llys y Goron Caerdydd, ac ers hynny mae wedi cael ei ddedfrydu i bedair blynedd a hanner yn y carchar.