Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cael ei ddedfrydu i garchar am oes, am gyfnod o 21 mlynedd ac 8 mis o leiaf am lofruddio Helen Clarke, a oedd yn 77 oed, yn Sgeti, Abertawe ddydd Gwener 22 Medi 2023.
Plediodd David Clarke, 80 oed, yn euog i'r llofruddiaeth yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun 5 Chwefror.
Mae teulu Helen yn cael cymorth gan swyddogion arbenigol.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd, Paul Raikes:
"Mae'r ymchwiliad hwn wedi bod yn un heriol oherwydd ei natur a'i amgylchiadau.
"I'r perwyl hwn, hoffwn nodi ein cydymdeimlad â theulu Helen Clarke, a diolch iddynt am eu cydweithrediad a'u dealltwriaeth yn ystod cyfnod sydd wedi bod yn eithriadol o anodd iddynt."
Mae teulu Helen wedi cyhoeddi'r datganiad canlynol:
Neges gan Deulu Helen Clarke
08/02/24
Roedd ein Mam yn ddynes gariadus, caredig a dewr, ac roedd ganddi feddwl mawr o'i theulu, ei ffrindiau, a'r byd yn ei gyfanrwydd.
Roedd hi'n hynod ymrwymedig i'w ffydd, byddai ei chwerthiniad yn goleuo'r ystafell, ac roedd gwerthfawrogi ei bywyd a'r harddwch o'i chwmpas yn fawr iawn.
Mae ei marwolaeth sydyn a thrasig wedi cael effaith ddinistriol arnom; ac mae ein galar yn ddirfawr. Mae'r sefyllfa rydym ynddi yn tynnu sylw at gymhlethdod a bregusrwydd y meddwl dynol.
Ni ellir dychmygu'r boen rydym wedi ei dioddef ers iddi gael ei chymryd yn giaidd oddi wrthym - mae ein plant yn colli eu Mam-gu, a oedd mor falch ohonynt, yn fawr iawn. Rydym yn parhau i wneud ein gorau i roi cymorth iddynt a'u hamddiffyn wrth geisio delio â'r amgylchiadau anodd tu hwnt yma.
Rydym yn gwerthfawrogi'r holl gariad, gofal ac ystyriaeth gan ein teulu ehangach, ein ffrindiau a'r gymuned leol. Mae'n parhau i fod yn gysur mawr i ni.
Hoffem ddiolch i'r ymatebwyr cyntaf, i'r cyhoedd a'r gwasanaethau achub – rydym yn cydnabod eich dewrder a phopeth a wnaethoch y bore hwnnw, a thu hwnt iddo.
Hoffem hefyd ddiolch i'r meddygon, y nyrsys a'r staff meddygol a ofalodd am ein mam gyda'r fath urddas a pharch tan y diwedd, mae eich tosturi yn batrwm i bawb.
Ac hefyd i'r heddlu, i swyddfa'r crwner, i Wasanaeth Erlyn y Goron, i Cymorth i Ddioddefwyr ac i dîm cyfreithiol ein mam.
Diolch am eich cymorth barhaus ac am eich proffesiynoldeb wrth sicrhau bod cyfiawnder wedi'i gyflawni.
Mae'r broses wedi peri trallod eithriadol i'n teulu, ac rydym yn ddiolchgar iawn am eich sensitifrwydd a'ch arweiniad.
Fodd bynnag, nid yw'r system yn berffaith o bell ffordd, a byddwn yn parhau i eirioli am hawliau dioddefwyr ac am newid mewn deddfwriaeth.
I gloi, er bod rhai yn ystyried ein hamgylchiadau yn ddeunydd stori yn y newyddion, ein trasiedi breifat ni yw hon – un sy'n parhau i gael dylanwad dramatig, nid yn unig ar ein llesiant meddyliol, ond hefyd ar ein bywydau, ac yn arbennig ein plant.
Gofynnwn i bawb barchu ein preifatrwydd wrth i ni barhau i ganfod y dewrder a'r nerth i'w harwain drwy drasiedi ein teulu yn y ffordd orau bosibl.