Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Plediodd Gould yn euog i'r cyhuddiadau o reolaeth drwy orfodaeth a chyfathrebu maleisus. Yn ddiweddarach fe'i cafwyd yn euog gan reithgor o'r drosedd ychwanegol o ymosodiad rhywiol.
Fel rhan o'i dechnegau rheolaeth drwy orfodaeth, creodd nifer o gyfrifon ffug ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn dod yn ffrindiau gyda'r dioddefwr a'i ffrindiau. Roedd Christopher Gould yna'n gallu monitro ei lleoliad, a phwy oedd gyda hi, fel bod modd iddo ei stelcio ac aflonyddu arni. Ar achlysur arall, gwnaeth esgus bod yn gwsmer anfodlon yn ei gweithle ac anfonodd gŵyn faleisus dros e-bost at ei chyflogwr gan ddefnyddio enw ffug a berodd iddi golli ei swydd.
Digwyddodd yr ymosodiad rhywiol yn dilyn noson allan, pan ofynnodd y dioddefwr i Christopher Gould am help am nad oedd yn teimlo'n ddiogel, gan ei bod dan yr argraff ei fod yn oedolyn gofalgar a dibynadwy. Wrth roi lifft adref iddi, ymosododd arni'n rhywiol.
Yn natganiad personol y dioddefwr, a ddarllenwyd yn y llys, dywedodd y dioddefwr, sydd bellach yn 21 oed, “Rwyf am i Chris wybod nad oes ganddo bŵer drosof nawr. Rwy'n gwrthod caniatáu i'w ymddygiadau gwyrdroëdig, camdriniol a rheolaethol reoli fy nyfodol.”
Ychwanegodd y Ditectif Gwnstabl Cath Moore: “Roedd hwn yn achos cymhleth lle dangosodd y dioddefwr daerni a dewrder i gysylltu â ni a gwneud cwyn.
“Ar ôl cyfnod hir yn ymchwilio, roedd modd i ni gysylltu'r cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ac e-bost yn ôl at Christopher Gould.
“Mae angen dewrder aruthrol i ddioddefwyr troseddau rhywiol ailymweld â chyfnodau trawmatig yn eu bywydau, yn enwedig gan y bydd y troseddau'n aml yn cael eu cuddio oddi wrth deulu a ffrindiau.
“Fy neges i ddioddefwyr yw nad yw byth yn rhy hwyr i gysylltu â ni a rhoi gwybod am faterion. Byddwn yn eich cefnogi'n llawn ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddwyn camdrinwyr gerbron y llys.”
Os ydych chi wedi cael eich treisio neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol, rydym yma i chi. Pan fyddwch yn barod, gallwn gynnig cymorth i chi – dilynwch y ddolen hon https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/riportiwch/alpha-v1/cyngor/treisio-ymosod-rhywiol-a-throseddau-rhywiol-eraill/cymorth-treisio-ymosodiadau-rhywiolual-assault/.