Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi'i garcharu am ddeuddeg mlynedd am dreisio menyw.
Plediodd Kalvin Davies, 33 oed, o Heol Newydd, Treboeth, yn euog i ymosod cyn i'r rheithgor ei ddyfarnu'n euog o dreisio yn ystod ei dreial dilynol.
Ymosododd Davies ar y ddioddefwraig drwy ei tharo droeon a cheisio ei thagu yn ystod digwyddiad yn ei gartref. Aeth ymlaen i dreisio'r ddioddefwraig. Yna, gwnaeth ei chloi yn ei gartref, a dim ond pan oedd yn cysgu y llwyddodd i ddianc.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Sian Evans, yr Ymchwilydd a fu'n ymwneud â'r achos:
"Oherwydd dewrder y ddioddefwraig, bydd Kalvin Davies, unigolyn hynod beryglus oddi ar y strydoedd am gyfnod sylweddol.
"Rydym yn falch o weld y ddioddefwraig yn cael cyfiawnder am y profiad dirdynnol yr aeth drwyddo.
"Os ydych chi wedi dioddef unrhyw fath o drais yn erbyn menywod a/neu ferched, gan gynnwys ymosodiad rhywiol, peidiwch â bod ofn: rhowch wybod i ni ar unwaith. Fyddwn ni ddim yn eich barnu, byddwn yn eich trin â sensitifrwydd a pharch a byddwn bob amser yn rhoi eich iechyd a'ch llesiant yn gyntaf.”
Bydd Kalvin Davies ar y gofrestr troseddwyr rhyw am oes.
Cyngor ar gam-drin domestig: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cyngor/cyngor-a-gwybodaeth/cam-drin-domestig/cam-drin-domestig/
Cyngor ar drais, ymosodiad rhywiol a throseddau rhywiol eraill: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/riportiwch/alpha-v1/cyngor/treisio-ymosod-rhywiol-a-throseddau-rhywiol-eraill/