Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion ym Mhort Talbot wedi canfod bod metel yn cael ei ddwyn o bibell nwy critigol sy'n gwasanaethu'r ardal leol.
Mae'r bibell nwy hon yn hanfodol i gymunedau Port Talbot a Chwm Nedd, gan sicrhau y gall pobl gynhesu eu tai ac y gall busnesau weithredu'n effeithiol. Rhaid osgoi difrodi'r biblinell er mwyn sicrhau bod y nwy'n llifo'n ddiogel i gartrefi a busnesau lleol. Os na fydd y biblinell yn gweithio'n iawn, ni fyddai gan gartrefi a busnesau lleol nwy am gyfnod sylweddol o amser.
Gall dwyn metel o unrhyw biblinell nwy beri risg sylweddol i fywyd, gan y gall difrodi pibellau achosi gollyngiadau nwy neu ffrwydradau. Mae nwy naturiol yn hynod ffrwydrol a gall gollyngiadau nwy fod yn niweidiol i iechyd.
Dywedodd y Rhingyll Jules Simpson, Plismona yn y Gymdogaeth:
"Rydym yn rhybuddio pobl yn daer rhag peryglu eu hunain drwy ddwyn metel o biblinellau nwy byw.
"Nid yn unig rydych yn torri'r gyfraith; ond rydych yn rhoi eich hunain mewn perygl o niwed difrifol neu hyd yn oed farwolaeth. Byddwn yn nodi'r rhai sy'n ymwneud â dwyn y deunyddiau hyn ac yn eu harestio'n syth."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â difrodi pibellau nwy, cysylltwch â ni drwy un o'r ffyrdd canlynol, gan ddyfynnu 2400042934:
Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
Cysylltwch â ni drwy https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
E-bostio [email protected]
101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.
Mae gan ein Tîm Plismona yn y Gymdogaeth ym Mhort Talbot y rhoi'r cyngor canlynol er mwyn amddiffyn eich eiddo rhag lladron metel:
• Gwnewch yn siwr fod eich giatiau wedi'u cloi a bod eich eiddo'n ddiogel
• Ceisiwch gyfyngu ar y ffyrdd y gellir cael mynediad i'r to drwy symud biniau, casgenni dŵr a choed tal i ffwrdd o'r eiddo. Cadwch eich ysgolion dan glo mewn sied, garej neu gowt.
• Symudwch unrhyw ferfâu neu feiciau fel nad oes modd iddynt eu defnyddio i gludo'r deunydd a ladratwyd
• Ychwanegwch baent gwrth-ddringo i'r peipiau draen a landerau’r to er mwyn helpu i gyfyngu mynediad i'r to
• Ystyriwch osod goleuadau diogelwch ar eich eiddo
• Paentiwch y plwm gyda thar (sy'n ei gwneud hi'n anodd ei dynnu), neu unrhyw baent arall gan fod hyn yn dibrisio'r plwm
• Archwiliwch eich toeon a'ch cwteri'n rheolaidd
• Ystyriwch osod camera teledu cylch cyfyng i fonitro a recordio'r eiddo'n ddigonol
• Anogwch aelodau o'ch cymuned i fod yn wyliadwrus ac i gadw llygad ar eich eiddo, a rhoi gwybod am unrhyw weithgarwch amheus.