Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Teyrnged i ddioddefwr gwrthdrawiad traffig ffyrdd angheuol ar yr A473
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i wrthdrawiad angheuol rhwng car Vauxhall a Lori ar yr A473 rhwng cylchfannau Efail Isaf a Llanilltud Faerdre am 9:55am ddydd Iau, 1 Awst.
Bu farw dyn 50 oed o Donysguboriau o ganlyniad i'r gwrthdrawiad ac ers hynny, mae wedi cael ei enwi'n Jason Maber.
Mae teulu Jason wedi talu'r deyrnged ganlynol iddo.
“Roedd pawb yn y teulu yn caru Jason yn fawr. Roedd yn fab, yn frawd, yn ewythr, yn nai, yn ŵyr, yn dad ac yn bartner cariadus.
Rydym yn dal i fod mewn sioc a dydyn ni ddim hyd yn oed wedi dechrau dod i delerau o'i golli.
Rydym eisoes yn gwybod y bydd yn gadael bwlch enfawr na fydd byth modd ei lenwi mewn cymaint o fywydau.
Roedd Jason wrth ei fodd â cherddoriaeth, yn enwedig Pync a bandiau amgen ac roedd yn ystyried ei hun yn amgylcheddwr.
Roedd yn angerddol am ailgylchu, achub y blaned a hawliau anifeiliaid.
Roedd yn unigolyn caredig iawn a oedd yn rhoi gofal amser llawn i'w bartner ond roedd yn rhoi cymaint i'r gymuned leol hefyd.
Rydym mor ddiolchgar i'r holl wasanaethau brys a geisiodd ei helpu yn y fan a'r lle ac i unrhyw un arall a wnaeth stopio i helpu.
Mae'n rhoi cysur i ni o wybod nad oedd ar ei ben ei hun”.
Mae swyddogion yn apelio at dystion i'r gwrthdrawiad neu unrhyw un sydd â deunydd fideo o gamera dashfwrdd a all fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu'r hyn a ddigwyddodd cyn hynny, i gysylltu â nhw drwy ffonio 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2400256081.