Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd George Tetzlaff, 26 oed o Abertawe, ei gyhuddo o gyflawni nifer o droseddau gan gynnwys:
Cafodd ei ddedfrydu i bum mlynedd a saith mis yn y carchar yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth 6 Awst 2024, ar ôl pledio'n euog i'r holl droseddau.
Ddydd Sadwrn 29 Mehefin, cafodd Tetzlaff ei arestio ar ôl i swyddogion ymateb i adroddiad gan rywun a oedd wedi ei weld, am fod yr heddlu yn chwilio amdano i'w ddychwelyd i'r carchar. Ceisiodd redeg i ffwrdd ond cafodd ei ddal a'i arestio i'w ddychwelyd i'r carchar.
Cafodd Tetzlaff a'i fag eu chwilio, a daeth y swyddogion o hyd i gyllell glo, bagiau snap gwag clir, nwy CS ac arian parod yn y bag.
Wrth iddo gael ei dderbyn i'r ddalfa, gwelodd y swyddogion neges destun ar ffôn symudol Tetzlaff a oedd yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau.
Dywedodd Sam Tobin, Cwnstabl yr Heddlu:
“Cafodd Tetzlaff ei ddal gan swyddogion, er gwaethaf ei ymdrechion i ddianc rhag yr heddlu. Tra'r oedd yn cael ei gadw yn y ddalfa, canfuwyd bod CHWISTRELL CS a chyllell glo yn ei feddiant, a daethpwyd o hyd i dystiolaeth ar ei ffôn yn ei gysylltu ag achosion o gyflenwi cyffuriau dosbarth A. Mae Heddlu De Cymru yn cymryd camau cadarn yn erbyn y math hwn o drosedd sy'n peri risg i'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, gan sicrhau bod ardal De Cymru yn parhau i fod yn lle diogel i fyw ynddo.
Mae cuddwybodaeth gan y cyhoedd yn werthfawr iawn wrth i ni fynd i'r afael â throseddau cyfundrefnol. Rydym yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth yn ymwneud ag arfau neu gyflenwi cyffuriau i gysylltu â ni ar 101 neu drwy ffonio Crimestoppers ar 0800 555 111.”