Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn atgoffa pawb i fod yn wyliadwrus o dwyllwyr sy'n ceisio darbwyllo pobl i dynnu arian parod o'u cyfrifon banc a'i anfon atynt drwy'r post.
Fel rhan o'r sgam, sy'n ceisio darbwyllo'r dioddefwr bod ei fanc lleol wedi bod yn rhan o achos o dwyll, mae troseddwyr hefyd yn perswadio pobl i bostio cardiau banc i gyfeiriad penodol.
Maent yn honni eu bod yn rhan o ymchwiliad gwrth-dwyll, ac weithiau byddant yn dweud wrth y dioddefwyr i beidio â chrybwyll y peth wrth neb arall am fod yr ymchwiliad yn un cudd ac y gallai'r arian parod y byddant yn ei dynnu gael ei archwilio i ganfod olion bysedd.
Mae hon yn sgam gymhleth ond eithriadol o ddarbwyllol a pherswadiol sy'n arwain at bobl yn colli gwerth miloedd o bunnoedd o'u harian eu hunain.
Mae'r math o dwyll rydym yn eich rhybuddio amdano uchod yn debyg i'r hyn a elwir yn 'dwyll cludwyr', pan fo rhywun sy'n esgus bod yn swyddog heddlu neu weithiwr banc yn cysylltu â phobl, cyn eu twyllo i drosglwyddo eu harian neu gardiau banc. Efallai bydd y dioddefwr hefyd yn cael ei annog i rannu rhif PIN ei gyfrif, neu eitemau gwerthfawr fel gemwaith, oriorau ac aur (darnau neu farrau aur). Gall dioddefwyr hyd yn oed gael eu gorfodi i fynd allan a phrynu eitemau fel aur a gemwaith gan adwerthwyr dilys ar ran troseddwyr.
Mewn achos o dwyll cludwyr, bydd y rhain wedyn yn cael eu casglu o'u cyfeiriad cartref, ond rydym hefyd yn gwybod bod pobl yn cael ceisiadau i anfon arian parod, cardiau neu eitemau gwerthfawr drwy'r post at y twyllwyr hyn. Y gwirionedd yw bod troseddwyr yn defnyddio amrywiaeth o dactegau gwahanol – gan honni'n aml bod problem gyda'ch cyfrif a bod arnynt angen eich help i ddal y troseddwyr go iawn.
Os bydd rhywun yn eich ffonio gan honni ei fod yn gweithio i'ch banc, yr heddlu, neu sefydliad fel CThEF, ac yn gofyn i chi dynnu arian o'ch cyfrif: PWYLLWCH! MEDDYLIWCH AM DWYLL.
Rydym hefyd yn gwybod na fydd llawer o'r rhai a fydd yn cael eu targedu gan y twyllwyr hyn yn gweld ein neges yma o bosibl. Felly, siaradwch â'ch anwyliaid, eich ffrindiau a'ch cymdogion, a rhowch wybod iddynt am y dulliau clyfar ond creulon ac ystrywgar y bydd twyllwyr yn eu defnyddio.