Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae menyw 30 oed o Rondda Cynon Taf wedi cael ei dedfrydu i chwe blynedd yn y carchar yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Gwener 9 Awst 2024.
Roedd Jodie Lee Beer, 30 oed, o Lanhari, Rhondda Cynon Taf, yn gweithio fel swyddog carchar yng Ngharchar y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr, pan gafodd ei harestio ym maes parcio'r carchar ym mis Chwefror 2022.
Darganfuwyd bod gan Beer gyffuriau wedi'u cuddio yn ei meddiant ac, o ganlyniad, cafodd ei chyhuddo o gamymddwyn tra'n gweithredu fel swyddog cyhoeddus, o fod â chyffuriau yn ei meddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi, ac o fod â chyffuriau dosbarth A a dosbarth C yn ei meddiant. Ymddiswyddodd o'i rôl yn dilyn y cyhuddiadau.
Cafodd yr ymchwiliad ei arwain gan Tarian, sef Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol De Cymru, gyda chefnogaeth Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Jason Meadows, o Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian:
“Mae'r mwyafrif llethol o staff carchar yn cyflawni eu dyletswyddau i'r safonau uchaf, ac ni ddylai gweithredoedd y lleiafrif sy'n ymddwyn yn anghyfreithlon amharu ar eu hymdrechion a'u hymrwymiad.
"Bydd y ddedfryd heddiw yn rhybudd i eraill sy'n defnyddio eu pŵer i herio'r gyfraith.Roedd Beer yn gweithio mewn swydd gyfrifol yn ein cymuned a manteisiodd ar hyn er ei budd personol ei hun.
“Byddwn yn parhau i ymchwilio i'r rhai sy'n ymwneud â gweithgarwch troseddol ac yn bygwth diogelwch ein carchardai a'u dwyn o flaen eu gwell.”
Dywedodd Sarah Ingram, o Wasanaeth Erlyn y Goron:
"Mae'r hyn a wnaeth Beer wrth drefnu i fynd â swm mawr o gyffuriau a reolir i mewn i'r carchar roedd yn gweithio ynddo, yn achos difrifol o dor-ymddiriedaeth.
"Roedd y cyffuriau wedi cael eu paratoi'n barod i'w cludo i mewn i'r carchar, gyda'r bwriad amlwg o'u cyflenwi ymhellach. Fel swyddog carchar, roedd yn gweithio mewn swydd gyfrifol ac nid yw'r ymddygiad hwn yn cyrraedd y safonau disgwyliedig o gwbl.
"Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn parhau i weithio'n agos gyda'n cydweithwyr gorfodi'r gyfraith, yn yr achos hwn Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol Cymru, wrth erlyn troseddau o'r fath. Rydym bellach wedi dechrau cymryd camau i atafaelu enillion y drosedd hon."