Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Gaerdydd a gafodd ei ddal gyda chyffuriau ac arian parod pan gynhaliodd yr heddlu gyrch ar ei fflat wedi'i garcharu.
Roedd Caerion Chapman yn y gawod pan ddaeth y swyddogion i'w fflat yn Stryd Blaenclydach, Grangetown ar 8 Gorffennaf (2024).
Cynhaliwyd gwarant chwilio ganddynt o dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau a gwnaethant ganfod 13.8 gram o gocên mewn bagiau deliadau stryd a £2480 o arian parod wedi'u storio mewn cwpwrdd yn y gegin.
Lluniau o arian parod a chocên a ganfuwyd yn fflat Chapman
Yn ogystal, gwnaeth y swyddogion atafaelu a dadansoddi ffonau symudol a ddangosodd fod Chapman yn bennaeth ar linell cyffuriau a oedd yn dosbarthu cocên i ddefnyddwyr.
Ddydd Mawrth (6 Awst) – ychydig wythnosau ar ôl iddo gael ei arestio – rhoddodd Llys y Goron Caerdydd ddedfryd o dair blynedd a phedwar mis o garchar iddo.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Jac Homan:
“Gwnaethom ddal Chapman yn ddiamheuaeth pan aethom i'w fflat fis diwethaf a gyda chymorth y gymuned, rydym wedi rhoi terfyn ar ei fusnes. Bydd ganddo amser nawr i fyfyrio ar ei ddewisiadau busnes yn y carchar, sef y lle haeddiannol i unrhyw sy'n gwerthu cyffuriau ac yn achosi diflastod i'r gymuned.”
Mae gan Heddlu De Cymru ddull gweithredu dim goddefgarwch at ddelio mewn cyffuriau, a dim ond un enghraifft yw'r ymchwiliad hwn o'r ffordd rydym yn mynd i'r afael ag achosion o ddelio mewn cyffuriau yn y gymuned.
Gallwn weithredu ar y wybodaeth a gawn gan y cyhoedd, ac rydym yn gwneud hynny'n rheolaidd, felly parhewch i gysylltu â ni.
Caiff unrhyw un sydd ag amheuon neu wybodaeth am achosion o gyflenwi cyffuriau anghyfreithlon ei annog i gysylltu â ni: