Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn cefnogi Diwrnod Ymwybyddiaeth Gorddos Rhyngwladol ar 31 Awst, gan ymuno â sefydliadau ledled y byd sy'n helpu yn eu ffyrdd unigryw eu hunain i osgoi gorddos opioid.
Mae mwy na dwy flynedd ers i brif swyddogion roi mynediad llinell flaen i'r feddyginiaeth sy'n achub bywydau, naloxone trwynol.
Cyflwynwyd naloxone trwynol am y tro cyntaf gan yr heddlu yn 2022 – ers hynny, mae wedi'i ddefnyddio 87 o weithiau, gyda'r posibilrwydd o achub bywyd bob tro.
Mae nifer y cyflogeion sy'n gwirfoddoli i'w gario yn parhau i dyfu. Heddiw, mae dros 600 o unigolion sy'n ei gario, sy'n cynnwys swyddogion yr heddlu, PCSOs a Chwnstabliaid Gwirfoddol.
Un o'r rhain yw Natalie Jones, cwnstabl yr heddlu sy'n gweithio yng Nghwm Rhondda.
Dywedodd PC Jones: “Fi sy'n dewis cario naloxone. Yn fy nhair blynedd a hanner fel swyddog heddlu, yn aml fi yw'r cyntaf i gyrraedd safle argyfyngau, gan gynnwys argyfyngau meddygol.
“Mae cario naloxone yn fy ngalluogi i ymyrryd ac achub bywyd rhywun o bosibl.
“Mae'n hawdd iawn i'w roi ac nid oes risg o unrhyw adwaith niweidiol. Gall brynu amser hanfodol i rywun sydd angen sylw meddygol brys.”
Mae Natalie yn cofio'r adeg y rhoddodd naloxone ar 22 Mehefin 2024: “Roeddwn ar ddyletswydd yn cerdded ar hyd Stryd Fawr Tonyrefail pan sylwais ar ddyn yn un swp wrth ddrws. Wrth i mi fynd yn agosach, gallwn weld mai dyn lleol yr oeddwn yn ei adnabod fel rhywun sy'n defnyddio opioid ydoedd. Roedd yn anymatebol, felly rhoddais y naloxone trwynol iddo a daeth ato'i hun ar unwaith. Rwyf wedi clywed ers hynny iddo wella'n llwyr yn yr ysbyty ac, wrth gwrs, mae'n deimlad da iawn gwybod fy mod wedi gallu ei helpu,” meddai.
Dywedodd Arweinydd Naloxone Heddlu De Cymru, Ditectif Brif Arolygydd Stuart Johnson: “Yn 2018, roedd nifer y marwolaethau o ganlyniad i gyffuriau yng Nghymru, a yn fwy penodol yn Ne Cymru, ar ei uchaf ers degawd a bu'n rhaid i ni feddwl am ffyrdd o'i leihau.
“Yn dilyn cynllun peilot naloxone llwyddiannus iawn yng Nghastell-nedd Port Talbot yn 2021, gwnaethom sicrhau ei fod ar gael i swyddogion ym mhob rhan o'r heddlu, a heddiw, mae gennym nifer gynyddol o wirfoddolwyr sy'n ei gario.
“Mae naloxone yn syml iawn i'w ddefnyddio ac mae'n hawdd i'w gario.
“Gallai pob swyddog llinell flaen a gwasanaethau eraill o bosibl gario naloxone – rwy'n gobeithio y bydd eraill yn dilyn ein hesiampl. Profwyd ei fod yn gweithio ac mae'n achub bywydau.”