Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae protestiadau wedi bod yn digwydd yn rheolaidd yng nghanol dinas Caerdydd a dinas Abertawe, yn ogystal â rhai trefi yn Ne Cymru.
Mae'r rhain wedi bod yn gysylltiedig â'r gwrthdaro parhaus yn y Dwyrain Canol. Yn dilyn y digwyddiadau yn Southport, mae protestiadau ychwanegol wedi cael eu cynllunio a'u hysbysebu ar gyfer lleoliadau yn ne Cymru.
Mae plismona protestiadau yn gymhleth, yn enwedig pan fo miloedd o bobl ychwanegol yn ymweld â chanol y dinasoedd ar benwythnosau ac ar gyfer digwyddiadau mawr.
Mae Heddlu De Cymru yn cefnogi hawl pobl i leisio eu barn drwy brotestio ar yr amod eu bod yn gwneud hynny yn gyfreithlon. Mae penderfyniadau ynghylch sut i blismona protestiadau yn gofyn am ystyried hawliau a materion cymhleth sydd, yn aml, yn mynd yn groes i'w gilydd.
Pryd bynnag y caiff protest ei threfnu, bydd ymgyrch plismona mewn grym a byddwn yn gweithio i sicrhau y caiff y brotest ei chynnal yn ddiogel ac yn gyfreithlon, gyda chyn lleied o darfu â phosibl i aelodau'r cyhoedd, a ddylai allu mynd o gwmpas eu pethau'n ddiogel.
Nid oes gennym reswm i ddisgwyl anhrefn ond byddwn yn ymdrin yn gadarn ag unrhyw un sy'n dewis cyflawni troseddau fel trais a difrod.
Caiff Swyddogion Cyswllt yr Heddlu, y gellir eu hadnabod gan eu tabardiau cyswllt protest glas, eu defnyddio i ymgysylltu â'r bobl sy'n cymryd rhan yn y brotest.
Mae'r swyddogion hyn wedi cael hyfforddiant arbenigol i ymgysylltu â thorfeydd a sicrhau bod gwybodaeth yn llifo rhwng swyddogion yr heddlu, aelodau o'r dorf ac unigolion eraill drwy gydol y digwyddiad er mwyn helpu i gadw'r cyhoedd yn ddiogel a chynnal protest heddychlon yn effeithiol. Rydym yn annog y rhai sy'n cymryd rhan yn y protestiadau i ymgysylltu â'r swyddogion hyn er mwyn i ni ddeall eu bwriadau a'u pryderon. Gallwn eu helpu wedyn i hwyluso eu protest mewn ffordd lle gellir clywed eu llais, ond lle caiff anghenion y gymuned ehangach eu hystyried hefyd.
Rydym yn ymwybodol y gall gweld protestio ar raddfa fawr godi ofn ar aelodau o'r cyhoedd sy'n digwydd bod yn y cyffiniau fel rhan o'u bywyd bob dydd.
Dyna pam rydym yn ceisio sicrhau cydbwysedd o ran ein dull plismona a chymryd camau er mwyn sicrhau bod hawliau pawb yn cael eu parchu a'u diogelu.
Fodd bynnag, byddwn yn cymryd camau yn erbyn unrhyw un sy'n torri'r gyfraith, boed hynny ar adeg y drosedd neu wedi hynny.
Mae Heddlu De Cymru yn fwy na pharod i drafod a chydweithio â grwpiau eirioli er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw bryderon ynghylch ein dulliau o blismona protest ac er mwyn sicrhau bod arferion plismona yn adlewyrchu gwerthoedd tegwch, cydraddoldeb a chyfiawnder.