Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
O 24 Medi, 2024, bydd yn drosedd bod â ‘chyllyll math sombi’ a machetes yn eich meddiant yn y DU.
Bydd y newidiadau i'r Ddeddf Cyfiawnder Troseddol hefyd yn gwahardd y weithred o gynhyrchu, mewnforio, gwerthu a chyflenwi arfau o'r fath.
Cyn y newid i'r gyfraith, byddwn yn cefnogi cynllun ildio'r Swyddfa Gartref am fis cyfan, er mwyn galluogi pobl i ildio arfau o'r fath yn ddiogel i orsafoedd dynodedig yr heddlu.
Yn ystod y cyfnod ildio, a fydd yn rhedeg o ddydd Llun, 26 Awst hyd at ddydd Llun, 23 Medi, ni fydd y rhai hynny sy'n ildio cyllyll math sombi a machetes yn cael eu herlyn am eu bod yn eu meddiant yn anghyfreithlon pan fyddant yn eu hildio. Gallant hefyd eu hildio yn ddienw.
Mae'r Uwch-arolygydd Esyr Jones, arweinydd troseddau cyllyll Heddlu De Cymru, yn annog unrhyw un sydd ag arf o'r fath yn ei feddiant i gymryd y cyfle i'w waredu'n ddiogel yn ystod y mis hwn.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Jones:
“Dim ond lleiafrif bach o'n poblogaeth a gaiff eu heffeithio gan droseddau cyllyll o hyd, ond mae'r lleiafrif bach hwnnw yn dal yn ormod.
“Rydym yn parhau i weithio'n galed i sicrhau nad yw'n broblem sy'n gwaethygu yn ne Cymru, drwy ein haddysg amlasiantaethol #DdimYrUn a'n hymgyrch ymwybyddiaeth.
“Ond byddwn hefyd yn gweithio'n ddiflino i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell.
“Mae'r mathau hyn o gyllyll a machetes yn amlwg wedi'u dylunio i godi ofn ac achosi niwed, felly fel gwasanaeth yr heddlu, rydym yn croesawu'r gwaharddiad hwn.
“Rwy'n annog unrhyw un sydd ag arf o'i fath yn ei feddiant i wneud y peth iawn a manteisio ar y cyfle hwn cyn i'r gwaharddiad gael ei gyflwyno.”
Yn ystod y mis ildio arfau, gellir ildio cyllyll math sombi a machetes yn y gorsafoedd canlynol:
Gall perchenogion cyfreithlon cyllyll math sombi a machetes gyflwyno cais am iawndal pan fyddant yn ildio'r arfau i ni fel rhan o gynllun y Swyddfa Gartref.
Gellir dod o hyd i fanylion pellach am y cynllun ildio arfau, rhestr o'r eitemau sydd wedi'u cynnwys fel rhan o'r cynllun, diffiniad ohonynt a chanllawiau ar sut i'w cludo'n ddiogel drwy ymweld â thudalen we ddynodedig y Swyddfa Gartref.