Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bu lleidr yn teithio ledled y DU i gyflawni troseddau. Ond, daeth sbri droseddu'r gwladolyn o Rwmania i ben pan deithiodd i Bontypridd a chael ei arestio gan Heddlu De Cymru. Mae newydd gael ei garcharu a chaiff ei allgludo ar ôl cael ei ryddhau.
Dyma'r eiliad y cafodd Alexandru-Iulian Dima, 25 oed, o Rwmania, ei arestio gan swyddogion Heddlu De Cymru mewn dillad plaen ym Mhontypridd.
Cynhaliodd swyddogion ymgyrch 'sting', gan gredu y byddai'r troseddwr yn targedu eu tref yn fuan.
Sylwodd y staff yn Boots fod Dima yn eu siop a rhoddwyd gwybod i'r heddlu drwy ddefnyddio system radio a ddefnyddir gan fanwerthwyr ledled y dref sy'n eu galluogi i gysylltu'n uniongyrchol â swyddogion sydd ar batrôl.
Rhedodd Dima i ffwrdd ond ni allai ddianc rhag swyddogion yr heddlu a wnaeth ei ddal mewn maes parcio gerllaw.
Dyna ddiwedd ar ei ymgyrch ladrata ledled y DU – mewn cyfnod o 12 mis yn unig, llwyddodd i ddwyn cynhyrchion gwerth £60k o siopau Boots yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.
Ddydd Iau, 8 Awst (2024), cafodd ei garcharu yn Llys y Goron Caerdydd am bedair blynedd ar ôl pleidio'n euog yn flaenorol i 32 o droseddau'n ymwneud â dwyn o siopau. Bydd gorchymyn allgludo yn sicrhau y bydd yn dychwelyd i Rwmania ar unwaith ar ôl cael ei ryddhau.
Swyddog Pontypridd, Cwnstabl yr Heddlu Liam Noyce:
“Gwnaethom edrych ar wybodaeth am ei droseddu a dewis y diwrnod roeddem yn credu y byddai'n cyrraedd y dref. Yn wir, daeth yr alwad gan y staff yn Boots a chafodd ei arestio, gan ddod â diwedd ar yr ymgyrch o droseddu a gyflawnodd mewn trefi a dinasoedd ledled y DU. Rydym yn deall pa mor bwysig yw manwerthwyr mawr a bach i'r dref ac yn benderfynol ac ymrwymedig i sicrhau eu bod yn cael eu hamddiffyn rhag troseddu.”