Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn digwyddiad mewn cartref ar Heol Caerffili yng Nghaerdydd y rhoddwyd gwybod amdano yn ystod oriau mân ddydd Mawrth, 20 Awst.
Mae Alcwyn Thomas, 44 oed, o ardal y Mynydd Bychan yng Nghaerdydd wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth a disgwylir iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd yfory (dydd Gwener, 23 Awst).
Mae'r dioddefwr wedi cael ei enwi fel Victoria (Vicki) Thomas, 45 oed, o Heol Caerffili, Caerdydd.
Mae teulu Vicki wedi rhyddhau'r datganiad canlynol:
“Fel teulu, rydym yn torri ein calonnau bod ein merch, mam, chwaer, modryb, nith a ffrind yr ydym yn ei charu'n fawr wedi cael ei chymryd oddi wrthym mewn ffordd mor ofnadwy.
“Mae ein teulu wedi torri, a byddwn yn ei cholli am byth. Parchwch ein preifatrwydd a'n dymuniad i alaru yn ystod y cyfnod ofnadwy ac anodd hwn.”
Mae teulu Vicki yn cael cymorth gan swyddogion arbenigol.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Powell:
“Rydym yn cydymdeimlo â theulu Vicki sy'n parhau i gael eu diweddaru a'u cefnogi gan ein swyddogion cyswllt teuluol.
“Wrth i'n gwaith ymchwilio barhau ar y safle, hoffwn ddiolch i'r gymuned leol am ei chefnogaeth a'i dealltwriaeth.”