Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i farwolaeth amheus bachgen chwech oed mewn tŷ yn ardal Gendros yn Abertawe.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Cwm Du Close am 8:30pm nos Iau 29 Awst.
Mae menyw 41 oed wedi cael ei harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac mae yn y ddalfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd.
Mae ystafell digwyddiad wedi cael ei sefydlu ac mae ymchwiliad yn cael ei arwain gan Dîm Troseddau Mawr yr heddlu.
Gwyddom fod y plentyn a'r fenyw yn byw gyda'i gilydd ac, ar hyn o bryd, nid yw'r heddlu yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r farwolaeth.
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Chris Truscott, comander rhanbarthol Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot:
"Mae hwn yn ddigwyddiad ofnadwy a fydd yn sioc i'r gymuned leol.
"Mae ditectifs yn gweithio i ganfod amgylchiadau marwolaeth y plentyn a bydd mwy o swyddogion yr heddlu i'w gweld yn yr ardal i gynnig sicrwydd i'r trigolion lleol.
"Nid yw dyfalu ar y cyfryngau cymdeithasol o gymorth a bydd yn achosi trallod i'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad hwn mewn cyfnod sydd eisoes yn anodd dros ben."