Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru wedi lansio ymchwiliad i lofruddiaeth ar ôl i ddioddefwr ymosodiad difrifol yn Abertawe fis diwethaf farw o'i anafiadau.
Mae Joseph Dix, 26 oed o Ffraw, Gwlad yr Haf, a Macauley Ruddock, 27 oed o Gaerfaddon, Gwlad yr Haf, wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â'r ymosodiad, a ddigwyddodd ddydd Mercher 17 Gorffennaf.
Bu farw'r dioddefwr, dyn 33 oed o Falkirk, yr Alban, yn yr ysbyty ddydd Mercher 14 Awst.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Davies:
“Rydym yn meddwl am aelodau teulu'r dioddefwr. Maent yn cael eu cefnogi gan swyddogion sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol.
"Rydym am siarad ag unrhyw un a welodd yr ymosodiad hwn neu unrhyw un a allai fod â deunydd teledu cylch cyfyng neu gamera dangosfwrdd o'r ymosodiad, a ddigwyddodd ger mynedfa Travelodge ar Ffordd y Dywysoges tua 2am ddydd Mercher 17 Gorffennaf."
Os gwelsoch chi'r ymosodiad hwn neu os oes gennych unrhyw wybodaeth a fydd yn helpu'r ymchwilwyr, cysylltwch â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu 2400237176.
Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
Cysylltwch â ni drwy https://bit.ly/SWPProvideInfo
101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.