Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei ddedfrydu am ei ran mewn achos o ddwyn beiciau modur gan nifer o wahanol berchnogion.
Plediodd Rhys Kent, 22 oed, yn euog i bedwar cyhuddiad o Drafod Nwyddau wedi’u Dwyn ar 8 Mai 2024.
Roedd y beiciau modur dan sylw, y daeth swyddogion o hyd iddynt wedi'u storio mewn cyfeiriad ym Mlaenymaes, yn werth dros £18,000.
Mae wedi cael ei ddedfrydu i chwe mis yn y carchar, i gyd-redeg â'i ddedfryd bresennol o bedair blynedd am droseddau'n ymwneud â chyffuriau.
Dywedodd y Rhingyll Elliott Griffin:
“Mae gennym ddull gweithredu dim goddefgarwch at y rheini y canfyddir eu bod yn trafod nwyddau wedi’u dwyn yn ein hardal.
“Byddwn yn mynd ar ôl y rheini sy'n ymgymryd â'r gweithgareddau anghyfreithlon hyn nes y byddant yn y ddalfa.
“Os bydd eich beic yn cael ei ddwyn, peidiwch â pheryglu eich hun. Ffoniwch yr heddlu ar unwaith ar 999 os byddwch yn ei weld yn cael ei ddwyn, neu rhowch wybod am drosedd ar-lein/ffoniwch 101 os byddwch yn sylwi ei fod wedi diflannu.”
Mae ein cyngor ar sut i amddiffyn eich beic modur, moped neu sgwter ar gael yma: Diogelwch eich beic modur, moped neu sgwter rhag lladrad | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)