Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymosododd Steven Chappell, 29 oed, ar Daniel Bradley, 32 oed, yng nghyffiniau Tafarn Brogden, Porthcawl ddydd Gwener 9 Medi 2023. Bu farw yn yr ysbyty ar 23 Medi, 2023 o ganlyniad i'w anafiadau.
Cafodd Steven Chappell, o Beechwood Avenue, Cwmdâr, Aberdâr, ei ddedfrydu heddiw i 14 mlynedd o garchar yn Llys y Goron Casnewydd ar ôl iddo gael ei ganfod yn euog o ddynladdiad.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Claire Lamerton: “Gwnaeth Daniel ddioddef ymosodiad treisgar a direswm gan Steven Chappell. Nid oedd Daniel yn fygythiad, ac ni ddigwyddodd unrhyw beth y noson honno i gyfiawnhau yr hyn a wnaeth Steven Chappell iddo.
“Yn hytrach na cherdded i ffwrdd, arweiniodd dicter Steven Chappell at ymosodiad eithafol, diangen, a hollol ddifeddwl.
“Mae'r achos hwn yn dangos y canlyniadau difrifol y gall ymosodiadau o'r natur hon eu cael. Baswn yn annog eraill i feddwl pa mor hawdd y gall penderfyniad effeithio ar weddill eich bywyd chi a dod â bywyd rhywun arall i ben o bosibl.
“Mae ein cydymdeimladau o hyd gyda theulu a ffrindiau Daniel.”