Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae tri dyn o Donypandy wedi cael eu cyhuddo o gyhoeddi deunydd bygythiol ar gyfrif Facebook, gyda'r bwriad o greu casineb crefyddol, yn groes i Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986.
Ymddangosodd Geraint Boyce, 43 oed, Jamie Michael, 45 oed, a Daffron Williams, 40 oed, gerbron Llys y Goron Merthyr ddydd Llun, 12 Awst, lle plediodd Geraint Boyce a Daffron Williams yn euog. Byddant yn cael eu dedfrydu ddydd Gwener, 16 Awst. Plediodd Jamie Michael yn ddieuog. Bydd ei wrandawiad llys nesaf ddydd Gwener, 23 Awst, yn Llys y Goron Merthyr. Mae'r tri wedi cael eu cadw yn y ddalfa yn aros am eu hymddangosiadau nesaf.
Mae tri arall wedi cael eu harestio ar amheuaeth o arddangos deunydd ysgrifenedig bygythiol a chamdriniol / sarhaus gyda'r bwriad ac yn debygol o greu casineb hiliol.
Mae dyn 27 oed o Benarth wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth ar gyfer ymholiadau pellach tan ddydd Iau, 7 Tachwedd, ac mae dynes 33 oed a dyn 39 oed, y ddau o Flaengwynfi, Castell-nedd Port Talbot, wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth ar gyfer ymholiadau pellach tan ddydd Sadwrn, 9 Tachwedd.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Powell:
“Rwy'n gobeithio y bydd ein hymateb cyflym i'r digwyddiadau hyn yn anfon neges glir iawn y bydd goblygiadau difrifol i'r rhai sy'n meddwl y gallant gyhoeddi postiadau cas, hiliol neu ragfarnllyd.”