Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu Peter Pendlebury, 76 oed, a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 15 Tachwedd wedi talu’r deyrnged ganlynol:
"Roedd Peter, er y cafodd ei eni yn Blackpool, wedi ymgartrefu ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac wedi byw yno am y 40 o flynyddoedd diwethaf.
"Roedd yn ŵr cariadus ers 53 o flynyddoedd, yn dad balch i dri o blant ac yn dad-cu annwyl i bedwar o wyrion ac wyresau hyfryd.
"Roedd Peter yn ffotograffiwr amatur brwd, a oedd yn caru ei feic modur a'i feic. Roedd yn aelod o glwb beicio Phoenix lle roedd wedi codi arian ar gyfer amrywiaeth o elusennau dros y 30 o flynyddoedd diwethaf.
"Roedd Peter yn aelod uchel ei barch o'r gymuned, a bydd ei holl deulu a'i ffrindiau yn ei golli'n fawr.
"Yn olaf, hoffem ddiolch i'r nyrsys yn Ysbyty Athrofaol Cymru am eu caredigrwydd ac i'r holl wasanaethau brys ac unrhyw aelodau o'r cyhoedd a fu o gymorth ar y pryd."
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad traffig ffordd a ddigwyddodd ar Heol Simonston, Pen-y-bont ar Ogwr, tua 11.55am ddydd Mercher 15 Tachwedd.
Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys Honda Jazz arian a beiciwr.
Hoffem glywed gan unrhyw un a oedd yn dyst i'r gwrthdrawiad neu a oedd yn yr ardal ar y pryd, ac sydd ag unrhyw ddeunydd camera dashfwrdd.
Os gallwch chi, cysylltwch â ni drwy ddyfynnu'r cyfeirnod 2300389022.
Ewch i:
💬 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
📞 101