Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae menyw ddewr o'r Rhondda wedi chael ei chydnabod am ei dewrder.
Cafodd Ayette Bounouri, dinesydd o Ffrainc sy'n byw yn y Rhondda ers amser maith, Fedal Dewrder y Frenhines am geisio atal Zara Radcliffe rhag ymosod ar siopwyr yn y Co-op ym Mhen-y-graig ym mis Mai 2020.
Er mwyn dangos ei gwerthfawrogiad i Heddlu De Cymru am y gofal a'r tosturi a ddangoswyd gan ei swyddogion i bawb a fu'n rhan o'r digwyddiad trychinebus, cafodd yr Uwch-swyddog Ymchwilio, y Ditectif Uwch-arolygydd Mark O'Shea. ei wahodd gan Ms Bounouri i fynd gyda hi i seremoni dyfarnu'r fedal yng Nghastell Windsor.
Rhoddodd y ddiweddar Frenhines Elizabeth yr anrhydedd i'r tri unigolyn arwrol ychydig cyn iddi farw yn 2022. Fe'i cyflwynwyd iddynt ddydd Mercher gan Dywysog Cymru.
Bu farw John Rees, sef y cyntaf i gamu i'r adwy i ddiogelu cyd-siopwyr, yn dilyn y digwyddiad. Cafodd Fedal Dewrder y Frenhines ar ôl ei farwolaeth tra cafodd trydydd unigolyn, Lisa Way, Fedal Dewrder y Frenhines hefyd am ei dewrder ar y diwrnod hwnnw.
Cafodd Radcliffe ei chadw'n gaeth o dan orchymyn ysbyty ar ôl cyfaddef iddi ladd Mr Rees ar y sail nad oedd yn llawn gyfrifol a'r ffaith ei bod wedi cyfaddef tri chyhuddiad o geisio llofruddio.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd O’Shea, a enwebodd bob un o'r tri ar gyfer y gwobrau dewrder:
“Fel yr Uwch-swyddog Ymchwilio yn yr achos hwn roeddwn i'n credu bod gweithredoedd pob un o'r tri aelod o'r cyhoedd yn haeddu'r wobr fwyaf am ddewrder sifiliaid. Gwnaethant beryglu eu bywydau er mwyn diogelu eraill.
“Aberthodd John Rees ei fywyd, ond wrth wneud hynny, yn ddiau achubodd fywydau pobl eraill. Roedd gweithredoedd Ayette Bounouri a Lisa Way yn enghreifftiau o ddewrder anhunanol o'r radd flaenaf a gwnaethant beryglu eu bywydau er mwyn diogelu eraill.
“Roedd yn anrhydedd cael fy ngwahodd gan Ayette i fynd i'r seremoni yng Nghastell Windsor er mwyn cynrychioli Heddlu De Cymru. Roedd yn fraint cael gweld y fedal nodedig hon yn cael ei dyfarnu, yn gwbl haeddiannol, am eu gweithredoedd dewr anhunanol, heb os, y diwrnod hwnnw.”