Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfaddefodd Christopher El Gifari, 32 oed, ddynladdiad Mark Lang ac iddo ddwyn ei fan danfon, ond fe'i cafwyd yn euog o lofruddio a dwyn.
Am 12.49pm ar 28 Mawrth, galwyd y gwasanaethau brys ar ôl adroddiad am wrthdrawiad un cerbyd ar Heol y Gogledd yn Cathays, Caerdydd.
Yn dilyn ymholiadau, daeth yn hysbys mai fan danfon oedd y cerbyd dan sylw a oedd wedi cael ei dwyn o Laytonia Avenue gan Christoper El Gifari.
Roedd Mark Lang, y gyrrwr danfon, a oedd wedi bod yn danfon parseli, wedi sefyll o flaen ei fan mewn ymdrech i atal El Gifari ond gyrrwyd drosto a chafodd ei lusgo o leiaf 743 metr.
Cofnododd y camerâu cyflymder ar Heol y Gogledd fod y fan yn teithio ar gyflymder o 47mya.
Daeth y fan i stop wrth gyffordd New Zealand Road a rhedodd El Gifari i ffwrdd.
Ceisiodd aelodau o'r cyhoedd eu gorau i helpu ac i gysuro Mark, 54 oed, a oedd wedi'i anafu'n ddifrifol.
Er gwaethaf ymdrechion gorau'r gweithwyr meddygol proffesiynol, ni ddaeth Mark ato'i hun a bu farw o'i anafiadau 18 diwrnod yn ddiweddarach.
Bydd El Gifari yn cael ei ddedfrydu dydd Gwener nesaf (Rhagfyr 1).
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Arolygydd Rebecca Merchant, o Heddlu De Cymru:
"Roedd Mark Lang yn bartner, tad, mab, brawd, ewythr, a ffrind annwyl, a gafodd anafiadau angheuol wrth wneud ei waith yng Nghaerdydd fel dyn danfon nwyddau.
"Yn ystod y prynhawn ar 28 Mawrth 2023, gwnaeth Christopher El Gifari y penderfyniad ymwybodol i ddwyn fan Mark a'i gyrru ar gyflymder i mewn iddo, gan achosi anafiadau na fyddai Mark byth yn ymadfer ohonynt a newid bywyd teulu Mark am byth.
"Rwy'n cydnabod na all unrhyw beth ddod â Mark yn ôl nac unioni'r hyn a ddigwyddodd y diwrnod hwnnw, ac er na all y canlyniad heddiw fyth gwneud iawn i deulu Mark am eu colled ofnadwy, rwy'n gobeithio y bydd yn cynnig rhywfaint o gysur i bawb sy'n ei garu.
"Hoffwn dalu teyrnged i'r tosturi a ddangoswyd gan aelodau o'r cyhoedd a geisiodd eu gorau i helpu a chysuro Mark, ac i broffesiynoldeb swyddogion yr heddlu a chydweithwyr y gwasanaethau brys a aeth i'r digwyddiad.
"Rwy'n ddiolchgar i gymuned Gabalfa am ei chefnogaeth yn ystod yr ymchwiliad, yn enwedig drwy ddarparu deunydd Teledu Cylch Cyfyng a fu'n hollbwysig i'r achos hwn.
"Yn olaf, hoffwn ddiolch i'r tîm o dditectifs a staff yr heddlu sydd wedi gweithio'n ddiflino ar yr ymchwiliad hwn ar y cyd â Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r Cwnsler Erlyn. Mae ymdrechion pawb dan sylw wedi cyfrannu at y canlyniad heddiw."