Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i farwolaeth diesboniad Rebekah Williams, 42 oed, o Fôn-y-maen, Abertawe.
Cafodd swyddogion yr heddlu eu galw i gyfeiriad ei chartref ar Heol Myrddin ychydig cyn 8.50pm nos Iau, 2 Tachwedd.
Rhoddwyd gwybod i berthnasau Rebekah, ac maent yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Maent wedi talu'r deyrnged ganlynol iddi: “Roedd Rebekah yn fenyw gymhleth iawn ond roedd ei theulu i gyd yn ei charu'n fawr.”
Mae dyn 36 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â'i marwolaeth ac mae ymholiadau'n parhau.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Davies o Heddlu De Cymru: “Rydym yn meddwl am deulu a ffrindiau Rebekah ar yr adeg hon.
"Bydd mwy o swyddogion yr heddlu i'w gweld yn yr ardal wrth i ni barhau â'n hymchwiliad i gadarnhau union amgylchiadau ei marwolaeth.
“Rydym yn annog unrhyw un a oedd yn ardal Heol Myrddin rhwng 8am a 9pm ddydd Iau ac nad ydynt wedi siarad â swyddogion eto, i gysylltu â ni.
“Mae'n hanfodol ein bod yn cadarnhau beth ddigwyddodd, felly rwy'n apelio at unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni.”
Gellir cyflwyno gwybodaeth neu ddeunydd fideo ar-lein yma:
https://mipp.police.uk/operation/62SWP23B78-PO1
Fel arall, gallwch gysylltu â ni drwy un o'r ffyrdd canlynol, gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2300374225.
🗪Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
📧 E-bost [email protected]
📞 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.