Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymosododd Paul McGrath, 67 oed, yn rhywiol ar fenyw mewn safle bws y tu allan i dafarn yr Admiral Napier, ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, am oddeutu 1am ddydd Gwener, 14 Ebrill.
Mae ditectifs wedi canmol ymddygiad rhai aelodau o'r cyhoedd - gan gynnwys grŵp o ddynion ifanc o Sblot - a wnaeth ymyrryd.
Cafodd McGrath, o Lan yr Afon, ei arestio yn y fan a'r lle a phlediodd yn euog yn ddiweddarach i ddau gyhuddiad o ymosod yn rhywiol drwy gyffwrdd.
Clywodd y llys fod McGrath wedi targedu'r ddioddefwraig a oedd yn feddw ac yn agored i niwed, a bod yr hyn a wnaeth wedi achosi niwed seicolegol eithriadol iddi.
Roedd hi'n anymwybodol yn ystod yr ymosodiad 22 munud o hyd a gafodd ei ddal ar Deledu Cylch Cyfyng.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Joe Davies o Heddlu De Cymru: "Mae gan bawb yr hawl i deimlo'n ddiogel ac yn sgil ein hymateb cyflym ar 14 Ebrill, cafodd McGrath ei arestio yn y fan a'r lle.
“Hoffem ddiolch i'r aelodau hynny o'r cyhoedd a wnaeth stopio i ymyrryd, a'r rhai a ymatebodd i'r apêl gyhoeddus am wybodaeth.
“Arweiniodd cryfder y dystiolaeth a gasglwyd at bledion euog a diolch byth, ni fu'n rhaid i'r ddioddefwraig roi tystiolaeth yn y llys."
Cafodd McGrath, sydd wedi bod yn y ddalfa ers iddo gael ei arestio, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth, 14 Tachwedd i 25 mis yn y carchar am bob un o'r ddwy drosedd, i'w bwrw ar yr un pryd.
Mae McGrath wedi'i osod ar y Gofrestr Troseddwyr Rhyw am 10 mlynedd ac mae hefyd yn destun gorchymyn atal am oes, sy'n ei rwystro rhag cysylltu'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol â'r ddioddefwraig,
Dychwanegodd y Ditectif Gwnstabl Davies: "Roedd y gorchymyn atal yn hynod bwysig i'r ddioddefwraig a ddywedodd, ar ôl y ddedfryd, y byddai’n ei galluogi i symud ymlaen â'i bywyd. Rydym yn dymuno'n dda iddi wrth iddi barhau i wella."
Mae'r ymchwiliad hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i amddiffyn menywod rhag trais, ac i gadw ein prifddinas yn ddiogel.
Mae mynd i'r afael â thrais a chamdriniaeth yn erbyn menywod a merched wedi bod yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru ers amser maith, ac rydym yn cydnabod bod pryder ynghylch diogelwch personol a thrais mor fawr ag erioed.
Rydym yn annog pobl i gysylltu a rhoi gwybod i ni am achosion.
Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
Rhoi gwybod ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio
E-bost [email protected]
101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.
Am gyngor a gwybodaeth ewch i'n gwefan.