Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn hwyr un noson ym mis Gorffennaf 2022, bu digwyddiad domestig erchyll yn ardal Penrhys, pan ymosododd Jonathan Woods, 40 oed, ar ei bartner.
Tarodd Woods hi i'r llawr a stampio ar ei hwyneb, gan adael y ddioddefwraig yn ddiymadferth ac yn brwydro am ei bywyd ar ochr y ffordd. Yr unig dyst i'r ymosodiad arswydus hwn oedd plentyn ifanc.
Dywedodd DCI Emma Hampton, “Roedd yr olygfa a wynebodd y swyddogion yn un o'r rhai gwaethaf iddynt ei gweld erioed.
Ymatebodd y swyddogion yn wych, gan roi cymorth meddygol i'r ddioddefwraig a'i chludo i'r ysbyty'n syth gan nad oedd yr un ambiwlans ar gael. Yn ogystal, aeth y swyddogion ati'n gyflym i gael adroddiadau gan dystion er mwyn gallu defnyddio'r dystiolaeth i sicrhau cyhuddiad a chollfarn.
Gweithiodd y swyddogion yn ddiflino yn ystod yr ymchwiliad gan ddefnyddio tystiolaeth fforensig ac arbenigwyr meddygol i amlinellu ffyrnigrwydd yr ymosodiad, a dangoswyd bod y ddioddefwraig wedi dioddef 17 toriad asgwrn yn ei hwyneb.
Mae Woods yn unigolyn peryglus tu hwnt, ac ystyrir y digwyddiad yn ymosodiad domestig erchyll.
Nid oedd gan Woods, o Bencoed, unrhyw ddewis ond pledio'n euog i ymosodiad Adran 18.
Cafodd ei ddedfrydu i 13 blynedd a 6 mis o garchar yn ogystal â chael ei ystyried yn droseddwr treisgar am oes.
Rwy'n gobeithio y bydd y ddedfryd hir hon yn dod â rhywfaint o dawelwch meddwl i'r ddioddefwraig