Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gwrandawiad camymddwyn difrifol wedi canfod bod y grym a ddefnyddiwyd gan un o swyddogion Heddlu De Cymru yn angenrheidiol, yn gymesur ac yn rhesymol.
Cafodd y swyddog ei gyhuddo o dorri safonau ymddygiad proffesiynol drwy ddefnyddio grym diangen ar Mr Mohamud Hassan yng Ngorsaf Heddlu Bae Caerdydd.
Ystyriodd panel y gwrandawiad camymddwyn, a oedd yn cynnwys Cadeirydd â Chymwysterau Cyfreithiol, uwch-arolygydd o heddlu gwahanol ac aelod annibynnol, a oedd y swyddog wedi torri safonau ymddygiad proffesiynol.
Canfu'r panel nad oedd yr honiadau wedi'u profi.
Daeth i'r casgliad bod y dystiolaeth yn cefnogi cyfrif y swyddog, a bod ei ddefnydd o rym “yn angenrheidiol, yn gymesur ac yn rhesymol”.
Dywedodd y swyddog yn y gwrandawiad ei fod wedi clywed Mr Mohamud Hassan yn paratoi i boeri pan oeddent yn cerdded drwy ddalfa'r orsaf ar 8 Ionawr, 2021.
Dywedodd ei fod wedi dal pen Mr Hassan i lawr i'w atal rhag poeri arno ef a'i gydweithwyr.
Dywedwyd wrth y gwrandawiad camymddwyn na wnaeth yr amser a dreuliodd Mr Hassan yn y ddalfa gyfrannu at ei farwolaeth.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Danny Richards: “Rydym yn cydnabod yr effaith y mae marwolaeth Mohamud Hassan wedi ei chael ar ei deulu, ei ffrindiau a'r gymuned ehangach. Rydym yn parhau i feddwl amdanynt ac yn cynnig ein cydymdeimlad iddynt.
“Ni allwn ddychmygu pa mor anodd y mae'r cyfnod hwn wedi bod i deulu Mr Hassan na'r poen a'r galar y maent yn eu dioddef ers ei farwolaeth.
“Tan y cyfnod hwn, nid yw Heddlu De Cymru wedi cael gwneud sylwadau ar farwolaeth Mr Hassan na'r ymchwiliad annibynnol dilynol gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.
“Mae'n bwysig nodi sylwadau'r Crwner mewn gwrandawiad adolygu cyn cwêst a ddywedodd fod y post-mortem wedi dangos nad oedd cysylltiad achosol rhwng gweithredoedd swyddogion yn ystod cyfnod Mr Hassan yn y ddalfa a'i farwolaeth sawl awr yn ddiweddarach.
“Mae Heddlu De Cymru wedi cydweithredu'n llawn ag ymchwiliad Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, gan ddarparu gwybodaeth a deunyddiau, gan gynnwys deunydd fideo camera a wisgir ar y corff a deunydd teledu cylch cyfyng.
“Gobeithiwn y bydd y gwaith craffu annibynnol hwn a chanlyniad y cwêst sydd ar ddod yn cynnig atebion i'r cwestiynau niferus a godwyd ynghylch ei farwolaeth.”